Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff: #oseidiafi: Herio stereoteipiau a rhwystrau i gyfranogiad i annog rhagor o ferched yn eu harddegau i fod yn fwy actif yn fwy aml (RS968)
Dyddiad cau: 1 Mehefin 2026
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr sy’n gymwys i dalu ffioedd y DU yn unig
Darparwyr y cyllid: Cyngor Sir Torfaen
Y meysydd pwnc: Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Dyddiadau dechrau'r prosiect: Hydref 2026
**(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau cynhararach/hwyrach posibl).
** Mewn amgylchiadau eithriadol,ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer,dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.
Goruchwylwyr:
- Melitta McNarry
- Kelly Mackintosh
- Amie Richards
Rhaglen astudio gydnaws: Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, MSc drwy Ymchwil
Dull astudio: Amser llawn
Man Astudio: Prifysgol Abertawe (Campus Y Bae)
Disgrifiad o'r Prosiect:
Mae'r prosiect MSc drwy Ymchwil yma yn cynnig cyfle unigryw i unigolyn weithio o fewn awdurdod lleol i werthuso ei ymgyrch #oseidiafi. Bydd yr ymgeisydd yn gweithio'n agos gydag ymarferwyr a darparwyr gwasanaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, ymchwilwyr yn Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS, sef cydweithrediad Cymru gyfan rhwng pob un o'r wyth sefydliad addysg uwch yng Nghymru a Chwaraeon Cymru), a merched yn eu harddegau sy'n mynychu sesiynau #oseidiafi, er mwyn cynnal gwerthusiad manwl o'r rhaglen.
Nod yr ymgyrch #oseidiafi yw cael mwy o ferched yn eu harddegau i fod yn fwy actif, yn amlach drwy gydol awdurdod lleol Torfaen. Fel rhan o'r ymgyrch hon, mae'r tîm Datblygu Chwaraeon yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen i gynnal rhaglen gweithgarwch corfforol i ferched rhwng 13 ac 18 oed. Bydd y rhaglen #oseidiafi 10 wythnos sydd am ddim yn galluogi cyfranogwyr i gymryd rhan mewn sesiynau grŵp wythnosol a chael cymorth, mentora ac arweiniad personol gyda'r nod o fabwysiadu ffordd o fyw iachach yn yr hirdymor. Gall merched ar y rhaglen hefyd fanteisio ar ddosbarthiadau a champfeydd Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen a chânt eu cefnogi i gysylltu â chlybiau chwaraeon cymunedol lleol.
Mae manteision corfforol ac iechyd meddwl gweithgarwch corfforol yn hysbys; serch hynny, mae lefelau isel o weithgarwch corfforol, yn enwedig ymysg merched yn eu harddegau'n parhau. Mae'r Olwyn Newid Ymddygiad (Michie et al., 2011) yn amlygu bod amryw o ffactorau'n debygol o ddylanwadu ar yr ymddygiad hwn, fel rhyngweithiadau rhwng gallu, cyfle ac ysgogiad unigolyn (model COM-B). nod #oseidiafi yw cael gwared ar y rhwystrau ymarferol a gweithio i newid sut mae merched yn teimlo ac yn meddwl am weithgarwch corfforol, ymarfer corff a chwaraeon. Mae tystiolaeth a dealltwriaeth yn dangos bod merched yn llawer mwy tebygol o wneud ymarfer corff os bydd ganddynt gwmni wrth wneud hyn. Mae'r egwyddor hon o gefnogaeth gan gyfoedion/cwmnïaeth, ynghyd â darparu ymagwedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, mewn amgylchedd cymdeithasol-gynhwysol wedi'i gefnogi gan weithwyr proffesiynol, wrth wraidd dyluniad yr ymgyrch.
Prif nodau'r prosiect MSc hwn yw:
• Nodi cyfleoedd i hwyluso a datblygu pecyn pwrpasol ar gyfer casglu data a mesurau gwerthuso sy'n ystyried i) yr effaith tymor byr a hirdymor ar iechyd a lles corfforol, meddyliol a chyffredinol merched yn eu harddegau, a ii) yr effaith economaidd a’r adenillion cymdeithasol posib o fuddsoddi.
• Cynnal gwerthusiad annibynnol cynhwysfawr o'r rhaglen, gan gynnwys, ymysg allbynnau eraill, lunio adroddiad terfynol ac argymhellion ar gyfer y dyfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithredu â thîm Datblygu Chwaraeon Torfaen gan dreulio ei amser rhwng y safle ym Mhont-y-pŵl a safle WIPAHS, a bydd ganddo weithle yn yr Adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Abertawe. Bydd yn gyfrifol am gasglu data drwy amrywiaeth o ddulliau (ansoddol a meintiol) sy'n asesu effeithiau'r rhaglen ar iechyd corfforol, iechyd meddyliol a chyffredinol a lles y merched yn eu harddegau sy'n cymryd rhan yn #oseidiafi ac, yn y pen draw, bydd yn goruchwylio gwerthusiad cynhwysfawr o'r rhaglen
Cymhwyster
Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd: gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.
MSc drwy Ymchwil: Anghenion derbyn ar gyfer Gwyddor Chwaraeon yw gradd ail ddosbarth uwch mewn Gwyddor Chwaraeon neu ddisgyblaeth wyddonol berthnasol debyg.
Gofynion Iaith Saesneg:
IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 5.5 o leiaf ym mhob cydran unigol) neu gyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.Mae manylion polisi mynediad Saesneg Prifysgol Abertawe i'w gweld yma.
Cyllid
Oherwydd cyfyngiadau cyllid, mae'r ysgoloriaeth hon ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffïoedd dysgu ar gyfradd y DU yn unig, fel y’i diffinnir gan UKCISA (Rhestr lawn o gategorïau ar gyfer addysg uwch yng Nghymru)
Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu'r holl ffïoedd dysgu.
Sut i Wneud Cais
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, gan ddilyn y ddolen hon.
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth hon, mae angen y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen', rhowch y Cod RS perthnasol ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth h.y. RS968
2) Yn yr adran 'Ymchwil' fe welwch 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth'* (Gorfodol)
- Yn 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth' rhowch y ddau:
- y Cod RS968, a
- teitl yr ysgoloriaeth.
- Gadewch y maes Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
- Gadewch y Prosiect Ymchwil (os yw'n berthnasol) yn wag
- Yn 'Oes gennych gynnig i'w uwchlwytho?*' (Gorfodol) Dewiswch Ydw
- Yna uwchlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw'r hysbyseb trwy glicio print, ac yna argraffu i pdf)
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw opsiynau eraill wedi'u dewis.
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth wneud cais, sylwch na fydd ceisiadau a dderbynnir heb y wybodaeth uchod a restrir yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth.
Os ydych wedi gwneud cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn arddangos rhybudd '’Cais Wedi'i Gyflwyno’' ac yn blocio cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn:
- Gwnewch gais am yr un cwrs gyda'r dyddiad cychwyn nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael).
- Anfonwche-bost at pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'ch rhif myfyriwr a chod RS yr ysgoloriaeth berthnasol, gan ofyn i'r dyddiad cychwyn gael ei ddiwygio i gyd-fynd â'r hysbyseb.
- Ynabyddstaff derbyn yn diweddaru'ch cais yn unol â hynny.
Pwysig: Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am yr un rhaglen a dyddiad dechrau, peidiwch ag ail-ymgeisio gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir gyda chyfeiriad e-bost sy'n wahanol i'r un a ddefnyddiwyd yn eich cais gwreiddiol yn cael eu derbyn na'u hystyried.
Mae angen un cais i bob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil unigol dan arweiniad Prifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe.
NODER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - er mwyn cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd heb wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn ychwanegol at eich ffurflen gais rhaglen.
Sylwch fod llenwi'r Ffurflen Monitro EDI yn orfodol; Efallai na fydd eich cais yn symud ymlaen os na chyflwynir y wybodaeth hon.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi uwchlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain trwy e-bost):
- CV
- Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio ar gyfer gradd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yma yn ddigonol)
- Llythyr cyflwyno sy'n cynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cyd-fynd yn arbennig â'ch sgiliau a'ch profiad a sut rydych chi'n dewis datblygu'r prosiect.
- Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur pennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirda Prifysgol Abertawe. Sylwch nad ydym yn gallu derbyn cyfeiriadau a dderbynnir yn dyfynnu cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai dyfarnwyr ddyfynnu eu cyfeiriad e-bost cyflogaeth i wirio geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol).
- Copi o fisa preswyl y DU (os yw'n berthnasol)
- Cadarnhau cyflwyno ffurflen EDI
Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â:
ENW: Melitta McNarry
EBOST: m.mcnarry@swansea.ac.uk
*Rhannu Data Cais Partner Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, y gall rhannu data cais ddigwydd gyda phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo cyd-ariannu prosiect ysgoloriaeth yn berthnasol.