Peirianneg Fecanyddol/Gwyddor Deunyddiau: Elastomerau electro-actif a magneto-actif ar gyfer cymwysiadau cerbydau clyfar (RS670)
Dyddiad cau: 22 Mehefin 2026
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol
Darparwyr y cyllid: Cwmni modurol amlwladol, Japan
Y meysydd pwnc: Gwyddor Deunyddiau/Peirianneg, Gwyddor Polymerau/Cemeg, Mecaneg Gyfrifiadol/Peirianneg, Peirianneg Fecanyddol/Sifil
Dyddiadau dechrau'r prosiect: Hydref 2026
**(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.
Goruchwylwyr:
Rhaglen astudio gydnaws: PhD mewn Peirianneg Fecanyddol
Dull astudio: Amser llawn
Man Astudio: Prifysgol Abertawe (Campus Y Bae)
Disgrifiad o'r Prosiect:
Cymhelliad: Mae deunyddiau meddal a hyblyg (e.e. polymerau, hydrogeliau) wedi trawsnewid llawer o feysydd o wyddoniaeth a thechnoleg o electroneg hyblyg i roboteg feddal. Bellach, mae gwyddonwyr yn rhagweld y bydd y pedwar deg mlynedd o dechnoleg robot caled a systemau y gellir eu siapio'n hyblyg yn y pendraw yn cael eu disodli gan gyfnod newydd o roboteg feddal gyda deunyddiau amlswyddogaethol meddal lle mae Polymerau Electro-actif (EAP) a Pholymerau Magneto-actif (MAP) wedi'u nodi fel deunyddiau dewis naturiol. Ar un llaw, gall EAPau a MAPau greu ysgogiad mawr (ymestyn, plygu a throi) ym meysydd gweithredu trydanol a magnetig, ond ar y llaw arall, gallant greu strwythurau sy'n gallu newid siâp.
Nodau'r prosiect:
Prif her y prosiect hwn yw syntheseiddio cyfansoddion polymeraidd priodol sy’n gallu cael yr effaith fwyaf mewn meysydd trydanol a magnetig. Yn yr achos hwn, ar ôl syntheseiddio cyfansoddion polymer (e.e., rwberi naturiol sy'n llawn gronynnau dargludo), bydd gwahanol gyfresi o samplau'n cael eu paratoi i gynnal nodweddion microsgopig a rheolegol. Ar ôl hyn, bydd samplau pellach yn cael eu paratoi a fydd yn mynd drwy amrywiaeth o brofion mecanyddol (e.e, fisgo-elastig dan amodau straen gwahanol, profion torri dan ludded etc). Unwaith y bydd nodweddion rheolegol, microsgopig a mecanyddol wedi cael eu canfod, bydd cyfansoddion polymerig sydd wedi'u paratoi yn cael eu profi ar gyfer ysgogiad trydanol a magnetig dan wahanol feintiau actifadu. Bydd y cyfraddau ysgogiad yn cael eu cynllunio er mwyn targedu cymwysiadau posib mewn cerbydau clyfar lle bydd y targedau canlynol yn cael eu harchwilio, i) patrwm newid gwadn (neu ddyfnder gwadn), ii) aerodynameg drwy newid gwedd arwynebau ochr teiar, iii) lleddfu sŵn (dirgryniant) iv) nodweddion mecanyddol (caledwch).
Adnoddau: Bydd y myfyriwr PhD yn manteisio ar offer gweithgynhyrchu a nodweddu polymer meddal (printio 3D/4D) arloesol (h.y. rigiau profi electro-mecanyddol aml-echelin), a'r offer meddalwedd efelychu cyfrifiadol diweddaraf a ddatblygwyd gan y grŵp.
Hyd cyllido: 3.5 blynedd
Cymhwyster
PhD: Gofynion mynediad yw gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch ym maes Peirianneg neu ddisgyblaeth berthnasol debyg.
Gofynion Mynediad Saesneg:
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf bydd angen canlyniad derbyniol mewn cymhwyster Iaith Saesneg cymeradwy i wneud yn siŵr y byddwch yn gallu manteisio’n llawn o astudio yn Abertawe. Rydym yn ystyried ystod eang o gymwysterau, gan gynnwys Prawf Saesneg Prifysgol Abertawe, a phrawf IELTS y Cyngor Prydeinig (gydag isafswm o 6.5, a 5.5 ym mhob cydran). Ceir rhestr lawn o brofion derbyniol Iaith Saesneg yma.
Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd:
Gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.
Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.
Sylwer bod y rhaglen yn gofyn i rai ymgeiswyr feddu ar gymeradwyaeth ATAS, mae mwy o fanylion am gymwysterau'r cynllun ATAS ar wefan Llywodraeth y DU.
NID yw'n ofynnol cael cymeradwyaeth ATAS fel rhan o'r broses ymgeisio am ysgoloriaeth. Rhoddir manylion i ddeiliaid dyfarniad (fel y bo'n briodol) ynghylch sut i gyflwyno cais am gymeradwyaeth ATAS ar yr un pryd â chael cynnig ysgoloriaeth am gwrs.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu'r holl ffïoedd dysgu gan gynnwys ariantal blynyddol ar raddfa UKRI (sef £21,805 ar gyfer 2026/27 ar hyn o bryd).
Bydd treuliau ymchwil ychwanegol gwerth hyd at £1,000 y flwyddyn ar gael hefyd.
Sut i Wneud Cais
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, gan ddilyn y ddolen hon.
Gallwch gyflwyno cais yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Gweler Polisi Prifysgol Abertawe ar ddyfarnu grantiau a darparu cymorth ariannol
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth hon, mae angen y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen', rhowch y Cod RS perthnasol ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth h.y. RS970
2) Yn yr adran 'Ymchwil' fe welwch 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth'* (Gorfodol)
- Yn 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth' rhowch y ddau:
- y Cod RS970, a
- teitl yr ysgoloriaeth.
- Gadewch y maes Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
- Gadewch y Prosiect Ymchwil (os yw'n berthnasol) yn wag
- Yn 'Oes gennych gynnig i'w uwchlwytho?*' (Gorfodol) Dewiswch Ydw
- Yna uwchlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw'r hysbyseb trwy glicio print, ac yna argraffu i pdf)
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw opsiynau eraill wedi'u dewis.
* Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth wneud cais, sylwch na fydd ceisiadau a dderbynnir heb y wybodaeth uchod a restrir yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth.
Os ydych wedi gwneud cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn arddangos rhybudd 'Cais Wedi'i Gyflwyno' ac yn blocio cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn:
- Gwnewch gais am yr un cwrs gyda'r dyddiad cychwyn nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael).
- Anfonwch e-bost at pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'ch rhif myfyriwr a chod RS yr ysgoloriaeth berthnasol, gan ofyn i'r dyddiad cychwyn gael ei ddiwygio i gyd-fynd â'r hysbyseb.
- Yna bydd staff derbyn yn diweddaru'ch cais yn unol â hynny.
Pwysig: Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am yr un rhaglen a dyddiad dechrau, peidiwch ag ail-ymgeisio gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir gyda chyfeiriad e-bost sy'n wahanol i'r un a ddefnyddiwyd yn eich cais gwreiddiol yn cael eu derbyn na'u hystyried.
Mae angen un cais i bob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil unigol dan arweiniad Prifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe.
NODER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - er mwyn cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd heb wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn ychwanegol at eich ffurflen gais rhaglen.
Sylwch fod llenwi'r Ffurflen Monitro EDI yn orfodol; Efallai na fydd eich cais yn symud ymlaen os na chyflwynir y wybodaeth hon.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi uwchlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain trwy e-bost):
- CV
- Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio ar gyfer gradd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yma yn ddigonol)
- Llythyr cyflwyno sy'n cynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cyd-fynd yn arbennig â'ch sgiliau a'ch profiad a sut rydych chi'n dewis datblygu'r prosiect.
- Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur pennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirda Prifysgol Abertawe. Sylwch nad ydym yn gallu derbyn cyfeiriadau a dderbynnir yn dyfynnu cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai dyfarnwyr ddyfynnu eu cyfeiriad e-bost cyflogaeth i wirio geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol – nodwch gall unrhyw gynnig a wneir fod yn amodol ar y lefel briodol o Saesneg. Mae rhestr lawn o brofion Saesneg derbyniol i'w gweld yma).
- Copi o fisa preswyl y DU (os yw'n berthnasol)
- Cadarnhau cyflwyno ffurflen EDI
Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â: Yr Athro Mokarram Hossain
*Rhannu Data Cais Partner Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, y gall rhannu data cais ddigwydd gyda phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo cyd-ariannu prosiect ysgoloriaeth yn berthnasol.