Gideon, Megan and Florence recording the podcast.

Yn cynnwys y cyflwynydd a'r Athro Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Dr Gideon Calder ynghyd â dau o'n myfyrwyr Cysylltiadau Rhyngwladol, ceir cyfres podlediadau newydd sbon o'r enw 'The Society Column' sydd ar gael i wrando arni ar Spotify.

Wedi'i leoli yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe, mae gan gyflwynwyr y podlediad gyfoeth o ymchwil a gwybodaeth a all eich helpu i ddeall y byd presennol a'i ddyfodol yn well. Maent yn cynnal sgyrsiau gydag academyddion sy'n gweithio ym meysydd Economeg, Troseddeg, Gwleidyddiaeth, Addysg a llawer mwy.

Meddai Florence Currie, myfyriwr Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Ffrangeg:

"Rydw i wedi mwynhau gweithio gyda Dr Calder a Megan i ddatblygu'r podlediad hwn ar gyfer Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol (The Society Column). Rydw i wedi dysgu/gwella sgiliau gwerthfawr mewn brandio/hunaniaeth ac ôl-gynhyrchu/golygu ac rydw i mor ddiolchgar am y cyfle i weithio gydag ystod mor eang o academyddion diddorol. Mae SPIN yn fenter y byddaf yn dod yn ôl ati y semester nesaf; mae cymaint o gyfleoedd gwych i fanteisio arnynt!"

Meddai Megan Salter, myfyriwr Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol:

"Rydw i wedi mwynhau bod yn gyd-gyflwynydd 'The Society Column', podlediad Gwyddorau Cymdeithasol Abertawe. Rydw i wedi gallu ymarfer sgiliau newyddiadurol drwy ymchwilio, cysylltu a chyfweld ag aelodau staff yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, a hefyd rydw i wedi cael y cyfle unigryw i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r meysydd ymchwil niferus y mae'r aelodau staff yn arbenigo ynddynt.

Rydw i'n credu bod yr wybodaeth sy'n cael ei rhannu ym mhob pennod yn werthfawr ac yn addysgiadol iawn, a gobeithio bydd pawb sy'n gwrando yn teimlo'r un peth. Rydw i'n llawn cyffro wrth barhau i fod yn rhan o'r prosiect hwn wrth i mi ddechrau ar flwyddyn olaf fy ngradd israddedig".

Mae'n wych gweld ein myfyrwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau fel hyn, a fydd yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf ac yn eu helpu i ystyried astudio ym myd y Gwyddorau Cymdeithasol.

Bydd y gyfres podlediadau The Society Column yn lansio pennod newydd bob dydd Llun, gan gynnal cyfanswm o 8 pennod tan 10 Gorffennaf 2023 a fydd ar gael i wrando arnynt ar Spotify yma: Rhifyn Peilot - The Society Column | Podlediad ar Spotify

Rhagor o wybodaeth am The Society Column drwy eu sianeli cyfryngau cymdeithasol:

Instagram – @the_societycolumn

Facebook – The Society Column

Twitter – @T_SocietyColumn

Rhannu'r stori