Bydd y digwyddiad hwn yn para am ddau ddiwrnod ac yn canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud â chefnogi teuluoedd a dysgu yng Nghymru a'r tu hwnt.

Bydd Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Prifysgol Abertawe'n cynnal y seminar, a fydd yn adeiladu ar waith helaeth ac arloesol yr adran, wedi'i chefnogi gan gyflwyniadau gan siaradwyr allanol.

Bydd dwy brif thema’r seminar yn canolbwyntio ar waith ar y ddau brosiect yn yr adran a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Mae'r prosiect cyntaf, Tots, Tech and Talk, yn archwilio bywydau digidol plant ledled y DU, o adeg geni tan dair blwydd oed. Mae'r ymchwil arloesol hon yn edrych ar brofiadau a chanfyddiadau teuluoedd o ddefnyddio dyfeisiau digidol gyda phlant ifanc iawn, yn enwedig o ran iaith a lleferydd. 

Mae'r ail brosiect yn ymwneud â gwaith dan arweiniad Dr Jacky Tyrie yn Abertawe ar wreiddio hawliau plant (5-7 oed) mewn arfer addysgegol mewn ystafelloedd dosbarth cynradd isaf yng Nghymru.

Croesewir papurau hefyd gan staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe, a chan ymarferwyr, athrawon, awdurdodau lleol a phartïon eraill â diddordeb. Gweler yr alwad am bapurau YMA.

Dydd Iau 2 Tachwedd – dydd Gwener 3 Tachwedd, O 9am tan 4.30pm.

Cofrestrwch.

Rhannu'r stori