DEWCH I GWRDD Â'N MYFYRWRAIG RADDEDIG MA MEWN SEIBERDROSEDDU A THERFYSGAETH

Astudiais i Droseddeg ym Mhrifysgol Hull. Ar ôl graddio symudais i Abertawe lle bues i'n gweithio fel tanysgrifennwr gwerth net uchel am nifer o flynyddoedd cyn dychwelyd i academia.

Fy mwriad yn wreiddiol pan symudais i Abertawe oedd astudio Hawliau Dynol yma. Roedd pethau eraill yn digwydd ar y pryd a arweiniodd at oedi'r cynllun hwnnw.  O'r diwedd pan oeddwn i'n barod, roedd y Brifysgol yn cynnig yr MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth, a ddaliodd fy sylw ac a oedd yn cyd-fynd â'm diddordebau ar y pryd.

Y peth gorau am y rhaglen yw amrywiaeth a chryfder y cydweithio. Hefyd, yn bersonol imi nid oedd bod yn fyfyrwraig aeddfed yn anfantais. I ddechrau roedd dychwelyd i academia yn eithaf brawychus gan fy mod i'n fyfyrwraig hŷn mewn gyrfa sefydledig ond roeddwn i hefyd yn teimlo nad oedd yr yrfa honno’n datblygu o gwbl. Gwnaeth y rhaglen hon agor fy llygaid i'r cyfleoedd eraill sydd ar gael.

A photo of Lydia smiling

Mae'r rhaglen hon yn wych ac i gael y gorau ohoni, byddwch yn barod i wneud yr ymdrech i ddarllen am y pwnc. Hefyd, mae'n bosib y dewch ar draws lluniau a straeon sensitif, felly cofiwch siarad am hyn os ydynt yn effeithio arnoch chi. Mae hon yn rhaglen ardderchog sy'n rhoi'r sgiliau a'r rhinweddau ichi y gallwch eu defnyddio i roi newidiadau ar waith.

Roedd y gefnogaeth ar y rhaglen yn wych - yn anffodus cefais brofedigaeth yn ystod gwyliau'r Nadolig a bu modd imi gysylltu â'r Brifysgol am gymorth. Wedyn tuag adeg diwedd yr addysgu ar gyfer semester dau, dechreuodd cyfnod y cyfyngiadau symud. Er gwaethaf yr holl newidiadau enfawr yr oedd pawb yn eu hwynebu a gorfod goresgyn problemau anferth, roedd y cymorth gan y gyfadran yn wych. Hefyd rwyf yn anabl felly mae mynediad yn gallu bod yn broblem ond mae’r gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a'r swyddfa anableddau wedi bod mor gymwynasgar. Os oes angen cymorth arnoch, peidiwch â bod ofn gofyn.

Ers graddio, rwyf wedi ymuno â rhaglen PhD gyda'r CDT - mae'r gefnogaeth a'r cyfleoedd ym Mhrifysgol Abertawe heb eu hail.