Hyfforddiant Dwysedd Uchel

Mae prosiect ymchwil newydd ar draws Prifysgol Aberystwyth a meddygfeydd Meddygon Teulu yn ceisio datblygu argymhellion ymarferol ynghylch y ffordd fwyaf effeithiol y gall Hyfforddiant ar sail Cyfnodau Dwys reoli lefelau siwgr y gwaed a helpu i ôl-droi diagnosau o gyn-ddiabetes.

Cerin Brain, Rhys Thatcher a Rhi Willmot

Mae diabetes math 2 yn achosi lefelau siwgr y gwaed i fynd yn rhy uchel.Mae hyn yn gallu arwain at broblemau difrifol i'r llygaid, y galon a'r nerfau, mwy o berygl o golli aelod ac efallai gynyddu difrifoldeb ac ymlediad COVID-19, hyd yn oed.

Fodd bynnag, yn aml bydd rhybudd cyn datblygu diabetes.Mae 'cyn-ddiabetes' yn cyfeirio at gyflwr lle mae lefelau siwgr y gwaed yn cynyddu, ond heb fod yn ddigon uchel i gael eu dosbarthu fel diabetig.Mae'n bosibl ôl-droi'r diagnosis hwn drwy newid gweithgarwch corfforol a diet y person.Mae hyn yn bwysig, oherwydd ar ôl i berson gael diagnosis o fod yn ddiabetig, mae'n rhaid iddo reoli ei gyflwr yn llawer mwy llym er mwyn osgoi rhagor o gymhlethdodau iechyd.

Sugary sweets

Mewn gwirionedd, gall y rheini sy'n ôl-droi eu diagnosis o gyn-ddiabetes barhau â bywyd go-iawn ar y cyfan, wrth aros yn ymwybodol o fyw yn iach.Ar y llaw arall, bydd y rheini sy'n mynd ymlaen i ddatblygu diabetes yn parhau â'r diagnosis hwn, a'r angen i reoli ei oblygiadau, am oes.

Tra bod llawer ohonom yn gwybod y bydd ymarfer corff rheolaidd yn helpu i reoli ein pwysau a'r siwgr yn ein gwaed, rydym hefyd yn cael trafferth wrth fod yn fwy actif yn gorfforol.Y rhesymau sy’n cael eu nodi amlaf yw diffyg amser, a chynnal amserlen ymarfer corff nad oes ganddi oruchwyliaeth na strwythur.

Fodd bynnag, gallai ateb i'r mater hwn ddod ar ffurf Hyfforddiant ar sail Cyfnodau Dwys (High-Intensity Interval Training neu HIIT).Mae HIIT wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n cynnwys cyfnewid cyfnodau o ymarfer egnïol â chyfnodau o ymarfer dwysedd is neu orffwys bob yn ail, er enghraifft mewn ymarferion rhedeg, seiclo neu bwysau'r corff.

Mae ymchwil wedi dangos bod HIIT yn gallu gwella rheolaeth o siwgr y gwaed yn fwy effeithiol a thros gyfnod byrrach na'r ffordd draddodiadol o ymarfer ar gyflymder cyson.Hefyd, gellir cynnal arferion HIIT mewn gwahanol leoliadau gydag ychydig iawn o gyfarpar neu ddim cyfarpar o gwbl, ac mae'n haws eu cynnwys mewn amserlen brysur oherwydd eu hyd cymharol fyr.

Felly, gallai HIIT fod yn ateb i'w groesawu ar gyfer y rhai a chanddynt gyn-ddiabetes sy'n cael trafferth wrth ymarfer corff mewn ffordd o fyw brysur.Fodd bynnag, prin yw'r hyn rydym yn ei wybod am ba mor galed y dylem fod yn gweithio, ac am ba hyd, wrth wneud ymarferion HIIT.

Prosiect

Comisiynwyd astudiaeth ymchwil newydd wedi'i chynnal gan Cerin Brain a'i goruchwylio gan Dr Rhys Thatcher ym Mhrifysgol Aberystwyth, er mwyn darganfod mwy.Mae Cerin a Rhys yn gweithio gyda meddygfeydd Meddygon Teulu er mwyn helpu cleifion sydd â diagnosis o gyn-ddiabetes i ymgymryd â ffyrdd gwahanol o HIIT.Yma, y nod yn y pen draw yw datblygu canllawiau ynghylch y ffordd orau y bydd HIIT yn rheoli siwgr y gwaed.

treadmill
Dr Rhys Thatcher

Mae Rhys yn crynhoi'r ymchwil yma:"Mae Hyfforddiant ar sail Cyfnodau Dwys (HIIT) wedi'i ddefnyddio gan athletwyr ers blynyddoedd maith er mwyn gwella perfformiad, ond yn fwy diweddar mae ef wedi cael ei ddefnyddio mewn rhaglenni adsefydlu ar gyfer pobl â chyflyrau meddygol cronig gan gynnwys diabetes a chlefyd cardiofasgwlaidd.Tra bod defnyddio HIIT yn cael ei dderbyn yn helaeth, mae ansicrwydd ynghylch y ffordd orau o lunio rhaglen er mwyn gwella rheolaeth glwcos y gwaed ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes.Mae'r astudiaeth bresennol yn mynd i'r afael ag un o'r ffactorau allweddol wrth ddylunio rhaglen HIIT - sef dwysedd y cyfnodau ymarfer dwys. Gobeithiwn y bydd hyn yn rhoi sail i lunio rhaglen HIIT ac argymhellion yn y dyfodol ar gyfer defnyddio HIIT i wella rheolaeth glwcos y gwaed."

Bydd cleifion yn mynd i chwe sesiwn HIIT dros gyfnod y prosiect, ar ôl cymryd manylion am iechyd a ffitrwydd wrth ddechrau.Cynhelir y sesiynau hyn ar wahanol lefelau o ddwysedd, a chaiff lefel siwgr gwaed y cleifion eu mesur am 48 awr ar ôl pob sesiwn gan ddefnyddio synhwyrydd.Bydd cleifion hefyd yn dewis o fwydlen o fwydydd penodol cyn, yn ystod ac ar ôl eu sesiwn HIIT, er mwyn rheoli effeithiau diet.

Caiff dwysedd y sesiynau HIIT ei fesur mewn sawl ffordd, gan gynnwys cyfradd calon y claf.Mae hyn yn golygu y gellir teilwra rhaglenni ymarfer corff i lefel ffitrwydd unigol y person ac y gallant ddysgu a ydynt yn ymarfer ar y dwysedd optimaidd gartref drwy ddefnyddio watsh glyfar.

Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys arbenigedd gan Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi datblygu rhaglen i ddadansoddi data gan fesurau siwgr y gwaed.Mae'r bartneriaeth rhwng y Brifysgol a meddygfeydd Meddygon Teulu wedi bod yn dra llwyddiannus.Meddai Cerin:

"Mae gweithio gyda'r ddwy feddygfa (Borth a Church) yn Aberystwyth wedi bod yn fuddiol dros ben i'r astudiaeth.Mae’r meddygfeydd Meddygon Teulu wedi bod yn groesawgar ac yn frwdfrydig yn eu hymagwedd at gymryd rhan yn yr astudiaeth, ond hefyd maent wedi cynnig gwybodaeth uniongyrchol am agweddau gwahanol ar weithio gyda'r cleifion cyn-ddiabetig a'u trin."

Bydd gwaith yn y dyfodol yn archwilio hyd ac amlder optimeiddiol HIIT hefyd.Defnyddir canfyddiadau'r ymchwil hon i ddatblygu argymhellion ymarferol i'w defnyddio mewn meddygfeydd Meddygon Teulu a phecynnau gwybodaeth am gyn-ddiabetes, er mwyn helpu'r rhai sydd â diagnosis o gyn-ddiabetes i ôl-droi eu diagnosis yn llwyddiannus ac yn effeithiol.