DATBLYGU CANLLAWIAU YNGHYLCH YMARFER CORFF ER MWYN HYBU IECHYD MEDDWL

Mae iechyd meddwl gwael yn broblem sylweddol a di-baid.Wrth dybio y bydd oddeutu 30% o'r boblogaeth yn profi afiechyd meddwl rywbryd yn ystod eu bywydau, bydd y rhan fwyaf ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi cael ei effeithio, neu byddwn wedi cael trafferthion uniongyrchol ein hunain.

Mae ceisio hyrwyddo iechyd meddwl da bellach yn bwysicach nag erioed, yn sgîl rhybuddion gan y Cenhedloedd Unedig y gallai fod argyfwng iechyd meddwl ar ôl COVID-19.

Fodd bynnag, nid yw'r darlun yn hollol ddigalon.Tra bod tueddiadau'n dangos bod problemau iechyd meddwl yn dal i gynyddu, felly mae ymdrechion ymchwil hefyd, sy'n ceisio newid y sefyllfa afiechyd meddwl er gwell. Yn ddiweddar, rhoddwyd cryn dipyn o sylw i'r effeithiau cadarnhaol y gall gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff eu cael ar bobl ag iechyd meddwl gwael.

simmers in open water

Mewn gwirionedd, gall gweithgarwch corfforol wella hwyliau mewn modd tebyg i wrthiselyddion a seicotherapi, ac mae'n gysylltiedig â chwsg gwell, bywiogrwydd a chanolbwyntio.Gall gweithgarwch corfforol leihau effaith symptomau seicotig a difrifoldeb iselder, wrth helpu unigolion i ryngweithio'n fwy cadarnhaol â phobl eraill hefyd.

Gallai gweithgarwch corfforol fod yn driniaeth hynod werthfawr ar gyfer afiechyd meddwl, gan y bydd y rhai ag afiechyd meddwl yn aml yn profi cyflyrau iechyd ychwanegol gan gynnwys clefyd y galon a diabetes, ac oherwydd y gall rhaglenni gweithgarwch corfforol fod yn ddewis arall sy'n effeithiol o ran cost yn lle therapi neu feddyginiaeth, neu gallent ategu'r rheini.

Fodd bynnag, mae prinder gwybodaeth ac arweiniad ymarferol ar hyn o bryd ynghylch sut gall ymarferwyr (e.e. hyfforddwyr chwaraeon, hyfforddwyr ffitrwydd, arweinwyr cerdded) a gweithwyr iechyd proffesiynol (e.e.seiciatryddion, seicotherapyddion, nyrsys iechyd meddwl, therapyddion galwedigaethol) ddatblygu a chynnwys cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y driniaeth ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl.

Mae hyn yn cynnwys deall sut i ddylunio ac arwain rhaglenni, gan ystyried cyd-destun a mathau'r gweithgareddau corfforol, hyfforddiant ac addysg ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl, a natur y lleoliadau yn y gymuned leol sydd yn aml yn gyfyngedig o ran adnoddau.