Cydweithrediad rhwng diwydiant a’r byd academaidd yn targedu’r diwydiant morol trwy Ddatrysiadau Angori’r Genhedlaeth Nesaf

Mae gan Tidal Anchors Holdings Ltd. brofiad yn y diwydiant morol ac roeddent wedi sylweddoli bod angen math newydd o angor y gellir ei ddefnyddio’n fanwl gywir, heb fawr ddim llusgo i’w wreiddio. Maent wedi datblygu angor o fath newydd ar sail syniad gwreiddiol a luniwyd ar gyfer angori llongau morol yn ddiogel a sicr mewn dyfroedd llanw wrth brofi newid cyfeiriad yn y llanw neu’r gwynt. Mae’r dyluniad rheiliau deuol a gafaelfach yn sicrhau ei fod yn cael ei osod yn gywir ar unwaith, gyda sefydlogrwydd a gallu cadarn i afael ym mhob cyfeiriad, sut bynnag mae’r angor yn glanio ar wely’r môr. Nid yn unig mae’r Tidal Anchor® yn cynnig datrysiad angori gwell ei berfformiad ar gyfer llongau o bob math, mae hefyd yn opsiwn amgen o ran angorfa barhaol i’r rhai sydd ar gael ar hyn o bryd.

Bu’r ymchwil ar y cyd â thîm ASTUTE 2020 ym Mhrifysgol Caerdydd yn optimeiddio’r angor newydd er mwyn darparu’r perfformiad strwythurol a’r addasrwydd gorau posibl ar gyfer gweithgynhyrchu graddfa lawn. Nod y prosiect oedd gwerthuso’r perfformiad a modelu’r prif baramedrau, yn arbennig y dull o wreiddio ar wely’r môr, er mwyn canfod cyfleoedd i optimeiddio’r dyluniad a’r gallu i’w weithgynhyrchu ymhellach. Yn hanesyddol mae dyluniad angorau yn empirig ei natur, ac nid yw wedi esblygu fawr ddim yn y cyfnod diweddar. Mae dyluniadau cyfredol yn aml yn llusgo am gryn bellter cyn ymgysylltu’n ddigonol â gwely’r môr. Mae hynny’n aml yn golygu bod rhaid gosod angorau sawl tro cyn medru bod yn hyderus eu bod yn eu lle. Mae’r angor arloesol hwn yn gwella’r broses osod, a gellir ei leoli’n fanwl gywir, gan ddileu arferion megis defnyddio blociau concrid, sy’n niweidio’r amgylchedd.

Heriau - Y Gwynt, y llanw a hwylustod gweithgynhyrchu

Er mwyn i’r Tidal Anchor® berfformio ar lefel uwch o’i gymharu â modelau confensiynol oedd ar gael yn fasnachol, roedd angen ei optimeiddio i sicrhau ei fod yn parhau’n sefydlog yn wyneb grymoedd y gwynt a’r llanw y byddai llongau’n eu profi, er mwyn gweithredu o dan amrywiaeth o amodau ar wely’r môr. I sicrhau ei fod yn ddichonadwy yn fasnachol roedd angen ei optimeiddio hefyd ar gyfer hwylustod gweithgynhyrchu, yn arbennig dileu’r angen am weldio, sy’n ffynhonnell bosibl ar gyfer gwendid a chyrydu.

Datrysiad - Technegau Dadansoddi Cyfrifiadurol a Threialon Maes

Bu ASTUTE 2020 yn cydweithio â Tidal Anchors Holdings Ltd. gan ddefnyddio’r diweddaraf o ran systemau peirianneg gyfrifiadurol a gwybodaeth am weithgynhyrchu i bennu paramedrau perfformiad, gan gyfeirio’n arbennig at fanwl-gywirdeb/y gallu i ailadrodd y safle lansio a gwreiddio safle terfynol yr angor newydd. Datgelodd dadansoddiad elfen derfynedig (FEA) fod y Tidal Anchor® a optimeiddiwyd yn gallu aros yn sefydlog yn wyneb grymoedd y gwynt a’r llanw a brofir o dan amodau gwaith. Defnyddiwyd treialon traeth a môr a gynhaliwyd gyda Tidal Anchors i gadarnhau’r canlyniadau FEA. Modelwyd gwrthiant yr angor yn erbyn hylif gludiog – mercwri hylif, ac yn sgîl gwerthuso cryfder a chadernid yr angor, diwygiwyd y fanyleb.  

Mae cyfleuster profi mewn tanc wedi golygu bod modd cael adborth cynnar o sawl ailadroddiad dylunio. Penderfynwyd ar ddyluniad diwygiedig terfynol gan y cwmni a’i ailfodelu (yn erbyn hylif gludiog) gan ASTUTE 2020 er mwyn ail-werthuso cryfder i gadarnhau priodweddau a dimensiynau’r deunydd i wrthsefyll llwythi a ragwelid a ffactorau diogelwch gofynnol.

Wrth brofi’r angor, gwelwyd ei fod yn gosod ei hun yn fwy dibynadwy nag angorau confensiynol, a hynny o fewn pellter byrrach, sy’n golygu ei fod yn achosi llai o niwed amgylcheddol i lystyfiant glaswellt môr pwysig. Mae’r datblygiad ailddylunio pwysig hwn yn dal oddi mewn i feini prawf y patent gwreiddiol, oedd yn ystyriaeth bwysig iawn. Ar ben hynny, cafodd y gallu i’w weithgynhyrchu ei wella, a dilëwyd yr angen am weldio, a allai fod yn ffynhonnell bosibl ar gyfer gwendid a chyrydu.

Effaith

Bu Tidal Anchors Holdings Ltd. yn arddangos ac yn lansio’r Tidal Anchor® newydd yn Seawork International 2017, a gynhaliwyd yn Southampton. Mae’r digwyddiad hwn yn un o arddangosfeydd llongau masnachol a gwaith mwyaf Ewrop, ac yn cael ei ystyried yn siop dan yr unto o fewn y diwydiant ar gyfer prynwyr, deddfwyr a dylanwadwyr y farchnad forol. 

Cynhelir Gwobrau Morol Masnachol Ewrop yn y digwyddiad hwn, a chafodd y Tidal Anchor® ‘glod uchel’, gan ddod yn ail yn y categori Peirianneg ac Adeiladwaith Morol.

Mae Tidal Anchors wedi buddsoddi’n sylweddol i ddiogelu Eiddo Deallusol (IP) y dyluniad newydd hwn, a adolygwyd i sicrhau’r perfformiad strwythurol gorau posibl a optimeiddiwyd gan ASTUTE 2020.

Oherwydd ei allu i gael ei osod o fewn ei hyd ei hun, mae’r angor newydd yn gofalu am yr amgylchedd; mae biolegwyr morol wedi’i gydnabod fel datblygiad a allai leihau’n sylweddol y difrod i organebau ar wely’r môr.

Rhoddodd canlyniadau’r cydweithio llwyddiannus a’r derbyniad rhagorol a gafodd y Tidal Anchor® yn Arddangosfa Ryngwladol Seawork hyder i’r cwmni fuddsoddi mewn ceisiadau patent ar gyfer gwledydd niferus. Hyd yma, ac yn ogystal â’r Deyrnas Unedig, rhoddwyd saith patent mewn tiriogaethau tramor, gan gynnwys Ewrop, Hong Kong, Tsieina, Japan, UDA ac Awstralia.