Gweithgynhyrchydd Pwysig Offeryniaeth Ddiwydiannol ym Mhort Talbot yn Ymchwilio i Allu fydd yn Arwain y Byd o ran Rhagfynegi Lefel Sŵn

Mae British Rototherm Company Ltd., yng Nghastell-nedd/Port Talbot, yn gwmni byd-eang sy’n dylunio ac yn gweithgynhyrchu ystod o offerynnau manwl gywir ar gyfer y diwydiannau olew, nwy a diwydiannau prosesu eraill.

Mae eu cwsmeriaid, yn arbennig yn y farchnad Olew a Nwy a Phuro/Cemegol, wedi gorfod bodloni ar atebion ail orau oherwydd cyfyngiadau ar y cyfrifiadau a ddefnyddir wrth ddylunio. O’r herwydd, roedd British Rototherm yn dymuno datblygu gallu a fyddai’n arwain y farchnad wrth ragfynegi sŵn gostyngwyr gwasgedd agorfeydd a ddefnyddir ar gyfer rheoli gostyngiad yng ngwasgedd hylif a nwy mewn piblinellau.
Mae ASTUTE 2020 wedi bod yn gweithio gyda British Rototherm i ddangos gallu offer modelu rhifiadol i fodelu’n acwstig, gan ragfynegi lefelau sŵn y gostyngwyr gwasgedd, trwy gyfuno arbenigedd y cwmni ym maes rheoli a mesur llif ag arbenigedd tîm ASTUTE 2020 mewn modelu cyfrifiadurol.

Heriau

Nid oes arferion dylunio na thechnegol cyfredol sy’n ymdrin â rhagfynegi lefel sŵn. Mae galw cynyddol gan gwsmeriaid am ddata manwl gywir ynghylch lefel y sŵn a gynhyrchir gan ostyngwyr gwasgedd, gan fod goblygiadau arwyddocaol i hynny o safbwynt iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd gwaith, a dirgryniad yn y rhwydwaith pibellau, gan arwain at ddifrod i’r rhwydwaith. Trwy gydweithio effeithiol, mae ASTUTE 2020 a British Rototherm wedi datblygu gallu i ragfynegi sŵn ar sail technegau modelu peirianneg gyfrifiadurol er mwyn cael hyd i ateb ar gyfer yr amcanion canlynol:

  • Datblygu protocol arbrofol ar gyfer ymchwilio i lefelau sŵn a ffynonellau sŵn gostyngwyr gwasgedd, a chroesgyfeirio’r canfyddiadau cychwynnol ynghylch lefelau sŵn â’r rhagfynegiadau ar sail Safon Brydeinig BS EN 60534-8-2011.
  • Cwmpas dulliau modelu rhifiadol ar gyfer rhagfynegi allyriadau

Datrysiad

Roedd y gwaith ymchwil yn cynnwys gwaith arbrofol a rhifiadol. Cynhaliodd ASTUTE 2020 waith ymchwil ar y lleoliadau monitro ar gyfer tymheredd, cyfradd llif cyfeintiol a gwasgedd, a nodwyd trwy efelychiadau rhifiadol cyflwr sefydlog. Comisiynodd British Rototherm lwyfan dolen arbrofol a buddsoddi ynddo, tra bu ASTUTE 2020 yn cynorthwyo i greu siambr anatseiniol yn gartref ar gyfer y llwyfan profi. 

Addaswyd dyluniad dichonoldeb modelu’r llif a’r acwsteg er mwyn sicrhau bod modd cipio’r ffenomen gymhleth, yn ogystal â chyplu’r gwasgedd a achoswyd ar wyneb y bibell gan yr hylif i mewn i’r datrysydd acwstig-ddirgrynol. Roedd yr ymchwil hon yn hanfodol bwysig i sicrhau pontio llyfn i’r fethodoleg gyfrifiannol pan benderfynwyd ar yr amodau gweithredu a ddymunid.

Effaith

Mae’r ymchwil gydweithredol ar y prosiect hwn wedi cefnogi British Rototherm i gyflawni gallu i arwain y farchnad ym maes rhagfynegi sŵn gostyngwyr gwasgedd agorfeydd.

Roedd y cwmni’n cydnabod, er mwyn marchnata a mwyafu’r gallu unigryw oedd yn deillio o’r prosiect, fod gofyn cynyddu gweithlu British Rototherm er mwyn dod â gwybodaeth a sgiliau ychwanegol i’r tîm. Crëwyd pum rôl yn British Rototherm oedd yn eu galluogi i gyflawni archebion cwsmeriaid oedd ar ddod.

Mae British Rototherm wedi buddsoddi’n helaeth i hwyluso canlyniad llwyddiannus i’r cydweithio, gan brynu a gosod ‘Llwyfan Profi Gwasgedd’ a luniwyd at y diben, peiriant profi a ddefnyddir yn bennaf i asesu gallu a pherfformiad cydrannau.
Delwedd: Amlin Lefel Gwasgedd Sŵn
Bu’r modelu cyfrifiadurol yn fodd i wella proses y cwmni ar gyfer deall ffenomen sŵn, a bu o gymorth i fireinio’r offeryn rhagfynegi sŵn yr oedden nhw’n ei ddatblygu er mwyn bodloni gofynion y Safonau Prydeinig ynghylch lefelau sŵn cymwysiadau diwydiannol.

Ar ben hynny, lleolwyd myfyriwr M2A yn British Rototherm i gyflawni gweithgareddau ymchwil cydweddus oedd yn gysylltiedig â modelu cynhyrchu sŵn ar sail yr arbrofion a gynlluniwyd a chanfyddiadau modelu ASTUTE 2020, fel bod y trefniant cydweithio hwn yn enghraifft wych o gyfatebolrwydd cyllid ERDF ac ESF er budd economaidd diwydiant lleol.

Yn 2019, cyrhaeddodd British Rototherm y rhestr fer ar gyfer y wobr ‘Rhagoriaeth Weithrediadol’ yng Ngwobrau Gweithgynhyrchwyr MX, sy’n cefnogi amrywiaeth ac arloesedd ym maes gweithgynhyrchu yn y Deyrnas Unedig, enillon nhw gategori Arloesedd y Flwyddyn yng ngwobrau Busnes De Cymru, a daethon nhw’n ail yng ngwobrau Arloesedd Make UK i Gymru.

Mae’r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) yn fenter ym Mhrifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig dan arweiniad y diwydiant ym meysydd deunyddiau a gweithgynhyrchu lefel uwch.

Mae fformat testun cyfoethog o’r fideo ar gael yma