Gweithgynhyrchu TPR®: Cymhwyso Technoleg Uwch i Wella’r Cynnyrch, Technoleg, Rheolaeth a Monitro

Busnes technoleg werdd yw Affresol Limited, ac mae’n ymroddedig i leihau ei effaith ar yr amgylchedd; mae canran uchel o ddeunyddiau ei amrywiaeth arloesol o gynnyrch ac unedau adeiladu strwythurol (siediau, storfeydd biniau ac ati) wedi’i hailgylchu, sy’n sicrhau arbedion tymor hir, safonau uchel, ac ôl-troed carbon isel. Cefnogir ymrwymiad cynaliadwyedd ac ethos Affresol gan yr Ymddiriedolaeth Garbon.

Mae Affresol yn gweithgynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch gan ddefnyddio deunydd cyfansawdd o fath newydd, sef Thermo Poly Rock (TPR®). Concrid nad yw’n debyg sment yw TPR®, fe’i cynhyrchir drwy broses weithgynhyrchu oer, ac mae’n defnyddio cynnyrch gwastraff plastig wedi’u hailgylchu y lleihawyd eu maint a mwynau. Mae’r broses gymysgu arloesol yn cynhyrchu deunydd cyfansawdd y gellir ei fowldio, sy’n cael ei arllwys yn yr un modd â chymysgedd concrid traddodiadol ‘lled-sych’; yn fuan wedyn, ceir adwaith ecsothermig ac mae TPR® yn solet ar ôl tair awr.

Ar ôl cydweithio’n llwyddiannus ag ASTUTE yn ystod cyfnod cyllido 2010 – 2015, mae Affresol yn parhau i ymdrechu i sicrhau gwelliannau o fewn y cwmni, ac maen nhw’n defnyddio arbenigedd ASTUTE 2020 i ddatblygu a gwella effeithlonrwydd y broses weithgynhyrchu trwy wella dulliau sydd eisoes yn bodoli neu greu rhai newydd sy’n fwy addas ar gyfer deunydd TPR®.

Heriau – Cipio a Rheoli Data

Y brif her ymchwil a nodwyd oedd cynyddu capasiti a gallu gweithgynhyrchu cyfredol Affresol trwy wella’r monitro a’r rheolaeth ar y broses weithgynhyrchu. Mae’r plastig gwastraff sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer TPR® yn cynnwys amrywiaeth eang o ddeunyddiau sy’n wahanol o ran dwysedd a siâp geometrig. Ar yr un pryd, mae newidiadau yn y paramedrau amgylcheddol yn cael effaith amlwg ar y broses ei hun. Wrth gynhyrchu TPR®, nid oes astudiaethau hanesyddol na llenyddiaeth ddogfennol ar gael i gynorthwyo’r cwmni i addysgu’r gweithwyr, ac mae’r cynhyrchu ar hyn o bryd wedi’i seilio ar wybodaeth empirig a phrofiad, er mwyn cadw at y safonau a luniwyd. Mae TPR® wedi bod yn destun profion llym ar y lefelau uchaf a bennwyd gan Sefydliad Safonau Prydain (BSI), ac mae hefyd yn bodloni Safonau Ewrop. Y nod yw sicrhau bod gweithgynhyrchu TPR® yn dod yn fwy effeithlon a chynaliadwy, a chynnig cynnyrch TPR® fel dewis gwell a mwy cystadleuol yn lle concrid.

Datrysiad

Cwmpas y prosiect oedd cipio data a gwybodaeth ar y llawr cynhyrchu er mwyn creu cefndir dogfennol ar gyfer gweithgynhyrchu TPR®. Trosolwg o gapasiti cyfredol gwaith Affresol, o ran cynhyrchu a gallu i greu ystod eang o gynnyrch, oedd y cam cyntaf tuag at alluogi newid i sicrhau prosesau mwy effeithlon, gan ganolbwyntio ar ddigitaleiddio’r broses weithgynhyrchu.

Efelychu cynhyrchu

Cafodd proses weithgynhyrchu TPR® ei modelu a’i hefelychu, a chynhaliodd ASTUTE 2020 a thîm technegol Affresol asesiad rhithwir o amrywiol senarios a fyddai’n uwchraddio’r capasiti. Mae efelychu senarios cynhyrchu eithafol yn sicrhau bod Affresol yn barod i ymdopi â digwyddiadau annisgwyl, a bod dealltwriaeth dda o ymateb prosesau pan gyflwynir newidiadau. Caiff risgiau eu lliniaru’n fwy effeithlon, a gall Affresol gymhwyso syniadau newydd ar lawr rhithwir y ffatri heb achosi ymyrraeth nac anghysondeb yn ansawdd y cynnyrch.

Monitro a Rheolaeth

Un o’r targedau allweddol ar gyfer gwella prosesau oedd sefydlu arferion y rhyngrwyd diwydiannol o bethau (IIOT) a chymuned o systemau sy’n cyfnewid data ac yn gwneud penderfyniadau heb ryngweithio â phobl. Cwblhawyd y gwaith ymchwil trwy gyflwyno systemau monitro sy’n nodi paramedrau allweddol ar hyd y broses, ac sy’n gallu rhoi adborth ar gyfer dewisiadau gallu gwybodus.

Systemau Deallus

Wrth i dîm technegol Affresol a chydweithwyr ASTUTE 2020 weithio ar y prosiect ar y cyd, datblygwyd proses newydd i gasglu data sy’n cael ei brosesu’n awtomatig ar un llwyfan meddalwedd neu ar gyfer rhyngwynebu â systemau eraill, ac sydd ar gael i ddefnyddwyr awdurdodedig trwy unrhyw ddyfeisiau sy’n ei chefnogi. Roedd y feddalwedd a ddatblygwyd oddi mewn i Affresol yn golygu bod modd cyfuno casglu data, gan nodi a storio dangosyddion proses allweddol (KPIs) a throsi gwybodaeth dechnegol yn wybodaeth ystyrlon. Ar yr un pryd, cyflwynwyd nifer o synwyryddion mewn mannau allweddol ar y llawr cynhyrchu, i fonitro ansawdd y cynnyrch a phrosesu effeithlonrwydd pob cam.

Effaith

Mae’r prosiect ar y cyd wedi cael effaith sylweddol ar Affresol o’r cyfnod cynharaf. Neilltuodd Affresol adnoddau ar hyd cyfnod y prosiect ymchwil a datblygu gydag  ASTUTE 2020, a gynorthwyodd y cwmni i baratoi’r cyfleuster gweithgynhyrchu ar gyfer cyfraddau cynhyrchu uwch trwy roi technolegau a dulliau newydd a nodwyd ar waith yn llwyddiannus.

Bu tîm ASTUTE 2020 yn modelu ac yn efelychu’r broses weithgynhyrchu er mwyn sicrhau bod cyflwyno newidiadau i’r cynhyrchu yn fwy hwylus a diogel. Cafodd hyn effaith ar unwaith, gan i’r cynhyrchu gael ei aildrefnu’n dair prif adran, a chafodd yr wybodaeth gynhyrchu ddigidol ei gwella gan ddata oedd yn uniongyrchol gysylltiedig ag ansawdd y cynnyrch. Enghreifftiau o alluoedd newydd a ddatblygwyd yn ystod y prosiect oedd creu ymateb cyflym i ddigwyddiadau a allai achosi problemau o ran olrhain ansawdd ac ymyrraeth.

Trwy ddatblygu a chyflwyno’r systemau hyn, cyfunwyd mewnbwn pobl â mewnbwn peiriannau, gan sicrhau dealltwriaeth newydd o weithrediadau’r cwmni trwy’r llwyfannau gwe a ddatblygwyd a dadansoddeg data. Mae’r prosiect wedi creu mwy o allu i ymateb i baramedrau cynhyrchu newidiol ac wedi arwain at ehangu capasiti’r gwaith.

Yr effaith bwysicaf a ddaeth i’r amlwg o’r prosiect oedd cyflogi chwe aelod ychwanegol o staff ar y tîm cynhyrchu, fel bod modd uwchraddio’r capasiti cynhyrchu; roedd hyn yn cynyddu’r allbwn ar lefelau uwch o effeithlonrwydd.
Bu staff technegol Affresol yn elwa o gyfnewid gwybodaeth gyda Swyddogion Prosiect  ASTUTE 2020 yn ogystal â chael mynediad i’r technolegau diweddaraf a meddalwedd wedi’i theilwra, fel bod gwelliannau sylweddol i reolaeth y broses weithgynhyrchu a chyfansoddiad ac ansawdd y cynnyrch gorffenedig.

At ei gilydd, mae’r trefniant cydweithio wedi arwain at broses gynhyrchu fwy effeithlon a thechnolegol uwch i greu dewis amgen yn lle concrid sydd â phriodweddau mecanyddol rhagorach ac sy’n cael llai o effaith ar yr amgylchedd: gwastraff plastig yw 70% o gynnwys TPR®, mae dros 4 tunnell yn cael eu dargyfeirio o dirlenwi, ac mae defnyddio TPR® yn lleihau swm y concrid sy’n cael ei gynhyrchu, a’r allyriadau CO2 cysylltiedig.