Ffug gyfweliadau

Bob blwyddyn, mae gan y Coleg Peirianneg Ddiwrnod Sgiliau Cyflogadwyedd lle rydym yn eich gwahodd chi i ddod i sgyrsiau gan gwmnïoedd, cael ffug gyfweliadau a rhwydweithio â chyflogwyr go iawn i'ch paratoi ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa.

 Cynhaliwyd y Diwrnod Sgiliau Peirianneg diweddaraf gyda chynrychiolwyr o 14 o gwmnïoedd yn dod o bob math o ddisgyblaethau.

Roedd y cwmnïoedd a oedd wedi'u cynrychioli yn cynnwys:


Roedd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau gan Babcock a Rolls-Royce, sesiwn rwydweithio â'r holl gwmnïoedd a fu'n bresennol, y cyfle i fyfyrwyr gael lluniau proffesiynol ar gyfer LinkedIn, a chynhaliwyd ffug gyfweliadau a ffug ganolfannau asesu hefyd i fyfyrwyr. Cafodd mwy na 45 o fyfyrwyr ffug gyfweliad!

Unwaith eto, roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr, a chafodd rhai myfyrwyr gynigion am leoliad o ganlyniad i'w ffug gyfweliadau.