"Rydym yn fwy na pheirianwyr"

Rydym yn deall bod llawer mwy i bob un o'n myfyrwyr anhygoel a'n staff academaidd na'r pwnc y maent yn ei astudio, yn ei addysgu, neu’n ymchwilio iddo.
Yma yn Abertawe, rydym yn credu ei bod yn bwysig eich bod yn dewis prifysgol lle byddwch yn ffynnu – yn eich darlithoedd a’r labordai ac y tu hwnt iddynt.
Rydych yn fwy na myfyriwr i ni, a byddwch yn fwy na pheiriannydd pan fyddwch yn graddio. Rydym yn meithrin ac yn cefnogi ein myfyrwyr i ddod yn unigolion amryddawn a brwdfrydig yn ogystal ag yn beirianwyr gwych. Rydym eisiau dathlu’r holl deithiau unigryw a’r nodau sy’n eu gwneud nhw pwy ydyn nhw. Beth fydd dy a stori di? #MwyNaPheiriannydd