Sut i gysylltu cyfrifiadur Windows 10 i'r rhwydwaith Eduroam

Mae'r gwasanaeth wi-fi yn galluogi aelodau'r Brifysgol i gysylltu â rhwydwaith y Brifysgol a'r rhyngrwyd wrth ddefnyddio cyfrifiaduron a dyfeisiau personol ar draws gampysau a lletyau'r Brifysgol.

Mae'r canllaw hwn yn cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer cysylltu cyfrifiadur Windows â rhwydwaith diwifr eduroam.

Yn gyntaf dylech osod tystysgrif Prifysgol Abertawe.

Bydd angen cysylltu eich dyfais i'r rhwydwaith SwanseaUni-Setup er mwyn cael y dystysgrif.

Windows 10 list of Wi-Fi networks with the SwanseaUni-Setup network highlighted

Lawrlwythwch a gosodwch y dystysgrif:

1. De-gliciwch ar y ddolen isod, a dewiswch yr opsiwn 'Save link as' i gadw'r ffeil i'ch cyfrifiadur

Tystysgrif Prifysgol Abertawe - DER (Fformat deuaidd)

2. Ewch i'r lleoliad ar eich cyfrifiadur le rydych wedi cadw'r dystysgrif, a dwbl-gliciwch y ffeil 'swansea-ca.der'

3. Cliciwch y botwm i osod y dystysgrif

The certificate Information window

4. Agorwch y ffeil

The Open File Security Warning window

5. Dewiswch yr opsiwn ar gyfer peiriant lleol, a chliciwch y botwm 'Nesaf'

The Certificate Import Wizard Window with Local Machine Highlighted

6. Dewiswch yr opsiwn i 'osod yr holl dystysgrifau yn y stôr canlynol'

7. Cliciwch y botwm i bori i'r stôr dystysgrifau o’r enw 'Trusted Root Certification Authorities'

8. Cliciwch y botwm 'Nesaf'

The Certificate Import Wizard Window showing the store where the certificate is to be kept within the device.

9. Cliciwch i orffen

The Certificate Import Wizard Window showing the finish option.

 

Ffurfweddu Eduroam

Nesaf bydd angen ffurfweddu'r cysylltiad ag eduroam, yn ôl y cyfarwyddiadau isod:

1. Agorwch flwch chwilio Windows trwy wasgu'r fysell Windows, neu trwy glicio'r eicon Windows yng nghornel chwith gwaelod y sgrin. Chwiliwch am 'Control Panel' a dewiswch yr opsiwn o'r ddewislen.

A windows search for Control Panel.

2. Cliciwch yr opsiwn ar gyfer 'Rhwydwaith a Rhyngrwyd', ac ar y sgrin nesaf cliciwch yr opsiwn ar gyfer y 'Ganolfan Rhannu a Rhwydwaith.'

The Control Panel home Screen Window with Network and Internet Highlighted.

3. Wedi i'r Ganolfan Rhannu a Rhwydweithiau ymddangos, cliciwch yr opsiwn i 'osod rhwydwaith neu gysylltiad newydd i fyny.

The Set up a new connection or network option highlighted.

4. Dewiswch yr opsiwn i gysylltu â rhwydwaith diwifr a llaw, fel y gweler isod:

The Set up a new connection window with Manually connect to a wireless network highlighted.

5. Bydd nawr angen mewnbynnu gwybodaeth ar gyfer y cysylltiad.

6. Mewnbynnwch 'eduroam' ar gyfer enw'r rhwydwaith.

7. Dewiswch 'WPA2 Enterprise' ar gyfer y fath o ddiogelwch.

8. Dewiswch 'AES' ar gyfer y fath o amgryptio.

9. Nawr cliciwch y botwm 'Nesaf.'

The Manually connect to a wireless network window with the network information filled in.

10. Cliciwch yr opsiwn i 'Newid cysodiadau'r cysylltiad.'

The Manually connect to a wireless network window with the change connection settings option.

11. Sicrhewch fod yr opsiwn i 'Gysylltu'n awtomatig pan bod y rhwydwaith hwn o fewn cyrhaeddiad' wedi'i thicio.

12. Nawr, cliciwch ar y tab 'Diogelwch.'

The eduroam Wireless Network Properties window.

13. Sicrhewch fod y 'modd dilysu'r rhwydwaith' wedi'i osod i 'Microsoft: Protected EAP (PEAP).'

14. Sicrhewch fod y blwch ar gyfer cofio'ch credlythyrau defnyddiwr wedi'i thicio.

eduroam Wireless Network Properties security tab with the settings button highlighted.

15. Nawr cliciwch ar y botwm 'Cysodiadau'.

16. Sicrhewch fod yr opsiwn i 'Ddilysu'r gweinydd trwy wirio'r dystysgrif' wedi'i thicio.

17. Sicrhewch fod yr opsiwn i 'gysylltu â'r gweinyddion hyn' wedi'i thicio.

18. Mewnbynnwch y canlynol i mewn i'r blwch testun o dan yr opsiwn i 'gysylltu â'r gweinyddion':
 
radauth.swan.ac.uk;bouncer.swan.ac.uk;radius.swan.ac.uk
 
19. Sicrhewch fod y blwch yn erbyn 'Awdurdod Tystysgrif Prifysgol Abertawe' wedi'i thicio.
 
20. Sicrhewch fod yr opsiwn i 'beidio gofyn i'r defnyddiwr i awdurdodi gweinyddion neu awdurdodau tystysgrif ymddiriededig newydd' wedi'i osod.
 
21. Sicrhewch fod yr opsiwn i 'galluogi preifatrwydd adnabod' heb ei thicio.
 
The Peap properties window with the configure button highlighted.
 
22. Nawr cliciwch ar y botwm 'Ffurfweddu.'
 
23. Sicrhewch fod yr opsiwn i 'ddefnyddio fy enw mewngofnodi a chyfrinair Windows yn awtomatig' heb ei thicio.
 
24. Nawr cliciwch 'OK.'
 
MSCHAPv2 Properties window with the checkbox unticked.
 
25. Cliciwch 'OK' eto.
 
26. Cliciwch ar 'Cysodiadau uwch'.
 
27. Sicrhewch fod yr opsiwn i 'nodi'r modd ddilysu' wedi'i thicio.
 
28. Toglwch y gwymplen i'r opsiwn 'dilysiad defnyddiwr.'
 
The eduroam wireless properties advanced settings window.
 
29. Cliciwch ar y botwm i 'cadw'ch credlythyrau'.
 
30. Yn y ffenest mewngofnodi sy'n ymddangos, mewnbynnwch eich cyfeiriad e-bost y Brifysgol a'ch cyfrinair, a chliciwch 'OK'.
 
The Save Credentials window.
 
31. Cliciwch 'OK', cliciwch 'OK eto, a chliciwch 'OK' am y trydydd tro i gau'r ffenestri 'Priodweddau'r Rhwydwaith.'
 
32. Cliciwch ar y botwm 'Cau' i gau'r ffenest 'cysylltu â rhwydwaith diwifr a llaw.'
 
33. Agorwch eich rhestr o'r rhwydweithiau WiFi sydd ar gael, a chysylltwch ag eduroam.