Isod mae cyfarwyddiadau ar gyfer cysylltu'ch Chromebook â'r rhwydwaith diwifr eduroam.

  1. Cysylltwch eich Chromebook â'r rhwydwaith Wi-Fi SwanseaUni-Setup, ac ewch i'r tudalen Cofrestru Dyfais i gofrestru'r Chromebook.
  2. Ar ôl cofrestru, cysylltwch â'r rhwydwaith Wi-Fi SwanseaUni-Visitors a dilynwch yr hysbysiad i gofnodi i mewn. Bydd hyn yn rhoi mynediad i'r rhyngrwyd i chi i ddilyn gweddill y camau.
  3. Nesaf bydd angen gosod y proffil eduroam. Cliciwch ar y cyswllt canlynol i lawrlwytho'r proffil: Proffil diwifr eduroam ar gyfer Chromebook
  4. Ar ôl clicio ar y cyswllt, bydd y proffil yn cael ei lawrlwytho fel ffeil o'r fath ONC.
  5. Ar ôl i'r lawrlwythiad cwblhau, copïwch y cyswllt canlynol i mewn i far cyfeiriad eich porwr Chrome:
    chrome://network#general
    Ymddangosir y tudalen Mewnforio ffeil ONC fel y dangosir isod:

    Sgrinlun o sgrin Mewnforio Ffeil ONC y porwr Chrome, sy'n dangos dewislen ar ochr chwith y tudalen gyda'r cofnod ChromeOS wedi'i dethol. I ochr dde'r ddewislen mae'r tudalen Mewnforio Ffeil ONC, sy'n cynnwys y testun canlynol: Import ONC File. Choose file. No file chosen.
  6. O dan Fewnforio ffeil ONC cliciwch ar y botwm Dewis Ffeil. Bydd hyn yn annog y sgrin Fy Ffeiliau i ymddangos.
  7. Cliciwch ar Lawrlwythiadau i agor y ffolder Lawrlwythiadau sy'n cynnwys y ffeil ONC eduroam, fel y dangosir isod:

    Sgrinlun o'r sgrin Fy Ffeiliau - Lawrlwythiadau, sy'n dangos dewislen ar ochr chwith y sgrin gyda'r cofnod Lawrlwythiadau wedi'i dethol. I ochr dde'r ddewislen mae'r ffolder Lawrlwythiadau, sy'n cynnwys ffeil ONC o'r enw eduroam-chromeos-Swansea_University.onc, a botwm Agor ar waelod y sgrin.
  8. Dewiswch y ffeil ONC eduroam a chliciwch ar Agor.
  9. Bydd y sgrin yn dychwelyd i sut roedd yn ymddangos yn Gam 5. Efallai bydd yn edrych pe bai ddim byd wedi digwydd, ond bydd y ffeil wedi'i lwytho. Bydd nawr angen i chi mynd yn ôl i'ch rhestr o'r rhwydweithiau Wi-Fi sydd ar gael, a dewis eduroam.
  10. Ymddangosir y sgrin i Ymuno a rhwydwaith Wi-Fi. Bydd y blwch Tystysgrif Awdurdo Ardystio'r Gweinydd yn cynnwys tystysgrif Awdurdod Tystysgrif Prifysgol Abertawe, fel y dangosir isod:

    Sgrinlun o hanner uwch y sgrin Ymuno a Rhwydwaith Wi-Fi, sy'n dangos y gosodiadau canlynol: SSID - eduroam; Diogelwch - EAP; dull EAP - PEAP; Dilysu cam 2 PEAP - MSCHAPV2; Tystysgrif Awdurdod Ardystio'r Gweinydd - Awdurdod Tystysgrif Prifysgol Abertawe.
  11. Rholiwch i lawr, a bydd yna gofnodion ar gyfer Hunaniaeth, Cyfrinair a Hunaniaeth Anhysbys.
    Yn y blychau Hunaniaeth a Hunaniaeth Anhysbys, mewnbynnwch eich cyfeiriad e-bost llawn Prifysgol Abertawe (gan gynnwys y rhan @swansea.ac.uk).
    Yn y blwch Cyfrinair, mewnbynnwch eich cyfrinair arferol Prifysgol Abertawe.
    Dangosir enghraifft isod:

    Sgrinlun o hanner gwaelod y sgrin Ymuno a Rhwydwaith Wi-Fi, sy'n dangos enw defnyddiwr enghreifftiol a.person@swansea.ac.uk yn y blychau Hunaniaeth a Hunaniaeth Anhysbys, ac 8 dot sy'n cynrychioli nodau cyfrinair yn y blwch Cyfrinair. Ar waelod y sgrin mae'r gosodiad Achub Hunaniaeth a Chyfrinair wedi'i throi arno, ac mae yna fotwm Cysylltu.
  12. Bydd eich Chromebook pellach wedi'i chysylltu ag eduroam.

    Sgrinlun o'r panel Rhwydwaith sy'n dangos rhestr o'r rhwydweithiau Wi-Fi sydd o fewn cyrraedd y ddyfais, a'r rhwydwaith eduroam wedi'i nodi yn gysylltiedig