abstract

Mae Dr Menna Price wedi defnyddio cyllid CHERISH-DE i ddefnyddio technoleg ddigidol i yrru prosiectau sector cyhoeddus yn amrywio o apiau bwyta’n iach, brechiadau ffliw a rheoli traffig. 

Prosiect cyntaf Menna gyda CHERISH-DE oedd cyllid sbarduno yn 2016 ar gyfer peilot “Creu meddylfryd iechyd gyda datrysiadau iechyd digidol”. Roedd hwn yn llwyddiannus a dyfarnwyd cyllid sbarduno pellach ar gyfer cam nesaf y datblygiad.

Arweiniodd y cyllidau sbarduno at ddatblygu prototeip ar gyfer ap bwyta’n iach. Mae Menna wedi rhoi cyflwyniadau mewn sawl cynhadledd gan gynnwys Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas Astudio Ymddygiad Traflyncol (SSIB 2019) a chynhadledd BFDG yn Lyon. Bydd hyn yn cael ei gyhoeddi yn y Journal of Medical Internet Research mynediad agored a chais am grant am gyllid er mwyn parhau i ddatblygu yn cael ei baratoi.

Mae Menna hefyd wedi gweithio gyda Bwrdd GIG Abertawe, ABMU, ar brosiect i gynyddu’r nifer o staff GIG sy’n cael brechiad ffliw. Mynychodd Menna gyfarfod y Cynnydd mewn Triniaeth Ffliw Blynyddol yng Nghaerdydd 2018 ac mae yna gyhoeddiad ar y gweill.

Cafodd hefyd secondiad i Gyngor Abertawe ar gynllun i leihau cerbydau segur wrth oleuadau traffig gan ddefnyddio neges weledol debyg i’r un a ddefnyddir ar draffyrdd clyfar. Dangosodd y canlyniadau fod dwywaith cymaint o yrwyr yn diffodd eu hinjan pan oedd yr arwyddion wedi’u gosod.     

“Mae’r Crwsibl wedi bod o fudd enfawr i mi’n bersonol. Mae wedi rhoi’r hyder i mi fynd ar drywydd ymchwil ryngddisgyblaethol, sy’n golygu fod y pethau y meddyliais a allai fod yn amhosibl yn gwbl bosibl erbyn hyn. Bydd integreiddio technoleg ddigidol i fy ymchwil (a’r hyder i wneud hynny) yn cadw fy ymchwil yn berthnasol a defnyddiol.   

Rwyf wedi datblygu sgiliau ymchwil newydd yn ogystal â magu hyder mewn meysydd newydd o ddatblygiad gwyddonol. Magais hyder hefyd i wneud cais i Grwsibl CHERISH-DE, oedd yn llwyddiannus, ac rwy’n gwybod y bydd hyn yn caniatáu i mi ddatblygu fy sgiliau a’m hyder, yn ogystal â datblygu rhwydwaith newydd o gydweithredwyr.”