Beth sydd angen i ni ei ymchwilio? Beth sydd angen i ni ei fod? Gwersi a ddysgwyd wrth gynnal ymchwil sy'n canolbwyntio ar bobl yn nyfodol y cyfryngau

Dydd Mawr 24 Mai 2022

Crynodeb: Yn y sgwrs hon, byddaf yn rhoi cyflwyniad ichi o ystod o’n gwaith diweddar yn Ymchwil a Datblygu'r BBC, ac yn enwedig yn ein Maes Ymchwil Cynulleidfa newydd. Byddaf yn gwibio drwy’r gwaith rydym wedi’i wneud wrth archwilio sut all sinematograffi synthetig alluogi darlledwyr i roi sylw i Ŵyl Gaeredin fel y Gemau Olympaidd; sut all gweithwyr proffesiynol creadigol, fel newyddiadurwyr, gydweithio â systemau algorithmig yn well; sut i ymchwilio’n effeithiol gyda phobl sy’n creu a’r bobl sy’n defnyddio cyfryngau; a sut allwn ni helpu'r diwydiant cyfryngau digidol i leihau’r defnydd o fetrig sy'n cynyddu defnydd a gor-wylio, i ddefnyddio mesurau sy'n adlewyrchu gwerthoedd dynol. Ym mhob achos, byddaf yn trafod sut rydym yn cydweithio â’n partneriaid prifysgol gwych, gan gynnwys Abertawe.

Bywgraffiad: Rwy'n Arweinydd Ymchwil UX yn y maes ymchwilio Cynulleidfa gydag Ymchwil a Datblygu’r BBC, lle mae timau amlddisgyblaethol yn ymchwilio i effaith technoleg ar y BBC a'r bobl mae'n eu gwasanaethu. Er mwyn dyfeisio cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus y dyfodol, rhaid inni fod yn arbenigwyr, nid yn unig yn y technolegau galluogi ar gyfer cynnwys diddorol, cyd-destunol, sy'n cael ei yrru gan algorithm, ond hefyd sut i gyflwyno a deall gwerth y profiadau hyn, gan ystyried graddfa, moeseg, ansawdd, effaith a dylunio cyfranogol. Mae gen i brofiad helaeth o ddatblygu offer arloesol a dulliau ymchwil ar gyfer cyfarwyddo fideo 360°, esbonio algorithmig, gwerthuso ansawdd profiad, hygyrchedd ac AI wrth gynhyrchu cyfryngau.

Cyn ymuno â’r BBC yn 1999, roeddwn yn ddarlithydd Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Reading; yn arwain ymchwil i faes rhyngwynebau clywedol a chyd-sefydlu'r Labordy Prosesu Signalau. Enillais fy nghymhwyster DPhil mewn sain ofodol a seicoacwsteg gyda Labordai BT a Phrifysgol Caerefrog yn 1997, ac rwy'n Beiriannydd Siartredig. Rwyf wedi bod yn aelod ar Fwrdd Cynghori Rhaglen EPSRC ar gyfer Economi Ddigidol a'r Tîm Cynghori Strategol ar TGCh. Rwyf hefyd yn aelod o Goleg Arbenigwyr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon y DU.