Archwilio Galluoedd a Photensial ChatGPT: Edrych yn Drylwyr ar Fodelau Iaith Eang a Rhyngweithio

Mae gan ChatGPT, model iaith eang a ddatblygwyd gan OpenAI, y gallu i gynhyrchu testun fel petai wedi’i greu gan bobl, sy’n ei wneud yn arf pwerus ar gyfer tasgau prosesu iaith naturiol megis cyfieithu, ateb cwestiynau a chynhyrchu testun. Bydd y sgwrs hon yn archwilio galluoedd a photensial ChatGPT a modelau iaith eang eraill, gan roi sylw i’w gallu i ryngweithio â’u defnyddwyr. Byddwn yn tyrchu i weithrediadau mewnol y modelau hyn ac yn trafod yr heriau sy’n gysylltiedig â hyfforddi a’u cyflwyno, yn ogystal a’r ystyriaethau moesol sy’n codi wrth eu defnyddio.  Byddwn hefyd yn arddangos enghreifftiau o sut mae ChatGPT a modelau iaith eraill yn cael eu defnyddio mewn diwydiant ac ymchwil, ac yn trafod posibiliadau ar gyfer y dechnoleg yn y dyfodol. Bydd mynychwyr yn gadael gyda gwell dealltwriaeth o bwer a photensial modelau iaith eang a’r ffordd mae modd eu defnyddio i wella’r rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron.

****NODYN: cynhyrchwyd teitl a chrynodeb o’r sgwrs hon am ChatGPT gan, ie, dyna chi, ChatGPT. Rwy’n bwriadu sgwrsio am ChatGPT, ond fy nheitl yw: ChatGPT: arf neu fygythiad? Rhywfaint o safbwyntiau am Fodelau Iaith Eang o bersbectif rhyngweithiol.****

Bywgraffiad: 

Mae Joel Fischer yn Athro Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron yn Ysgol Cyfrifiadureg, Prifysgol Nottingham, y DU, lle mae’n aelod o’r Labordy Realiti Cymysg. Mae ei ymchwil yn edrych ar dechnolegau sydd wedi’u trwytho mewn AI o bersbectif sy’n canolbwyntio ar bobl er mwyn deall a chefnogi rhesymeg a gweithgareddau dynol. Mae ei ddull ymchwil amlddisgyblaethol yn defnyddio ethnograffeg, dyluniad cyfranogol, prototeipio, ac astudiaethau o osodiadau technoleg, yn aml drwy lens dadansoddi sgwrs ac ethnomethodolegol. Ar hyn o bryd mae’n Gyd-ymchwilydd ac yn Gyfarwyddwr Ymchwil ar Hwb TAS Systemau Awtonomaidd Dibynadwy UKRI ac yn Gyd-ymchwilydd yn y ganolfan Economi Ddigidol Horizon ar “Gynnyrch Dibynadwy a Lywir gan Ddata”.