Helpu Menter Myfyrwyr Abertawe i Wireddu Gweledigaeth

Bob dydd ym Mhrifysgol Abertawe, mae myfyrwyr â syniadau beiddgar yn cerdded drwy ein drysau - syniadau a allai greu'r genhedlaeth nesaf o fusnesau twf uchel newydd, mentrau newid cymdeithasol a thechnolegau arloesol. Nod y Tîm Menter Myfyrwyr yw helpu i droi'r gwreichion cyntaf hynny'n rhywbeth ymarferol.

O fodiwlau a dosbarthiadau meistr meithrin hyder entrepreneuraidd, i gyfleoedd i brofi syniadau yn y farchnad, hyfforddiant pwrpasol a chyllid ar gyfer busnesau, rydym yn rhoi i fyfyrwyr a graddedigion yr adnoddau i gychwyn, tyfu a ffynnu ar eu teithiau entrepreneuraidd.

Pam mae Cefnogaeth Cyn-fyfyrwyr yn Bwysig

Llwyddiannau Go Iawn, Straeon Go Iawn

Myfyrwyr yn cerdded ar y traeth mewn gwisg graddio

Ar draws y Brifysgol, mae cymorth ar gyfer mentrau a ariennir gan gyn-fyfyrwyr wedi helpu myfyrwyr i drawsnewid syniadau'n fusnesau arobryn, cymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol, cael sylw yn y wasg a chreu effaith ystyrlon yn eu cymunedau.Mae'r straeon hyn yn dechrau gyda phenderfyniad rhywun fel chi i fuddsoddi ynddynt. Cewch eich ysbrydoli gan ein busnesau newydd.

Ein Rhaglenni

Ffyrdd y gallwch chi gefnogi

Gyda'n gilydd, adeiladwn y dyfodol

Fel un o raddedigion Abertawe, rydych chi'n gwybod pa mor bwerus yw cyfleoedd. Drwy roi'n ôl, byddwch chi'n sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o arloeswyr, entrepreneuriaid ac ysgogwyr newid yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i ddisgleirio.

Am ragor o wybodaeth, neu i drafod cydweithredu â ni, e-bostiwch enterprise@abertawe.ac.uk