Gallai rhodd heddiw fod yn rhaff achub i fyfyriwr sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, gall sbarduno'r datblygiad nesaf mewn ymchwil feddygol sy'n newid bywydau neu gall agor drysau Prifysgol Abertawe i feddwl disglair o bob cwr o'r byd, gan roi'r cyfle iddynt ddilyn eu breuddwydion.
Dewch o hyd i'r achos sy'n eich ysbrydoli isod, neu cysylltwch â'n tîm cyfeillgar yn giving@abertawe.ac.uk - byddem yn falch iawn o glywed gennych.
CRONFA CALEDI MYFYRWYR
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni'n gwybod bod bywyd yn anodd weithiau - yn enwedig i fyfyrwyr sy'n cydbwyso astudiaethau a chyllid.Mae cefnogi Abertawe yn helpu i leddfu'r baich hwnnw drwy ddarparu cyllid brys hanfodol i'r rhai hynny sy'n wynebu caledi annisgwyl.
- Gallai rhodd o £75 gynnig cymorth brys gyda chostau byw hanfodol.
- Gallai rhodd flynyddol o £120 helpu i sicrhau y gall myfyriwr sydd wedi'i ddieithrio o'i deulu fynd i'w seremoni raddio.
- Gallai rhodd fisol o £20 gyfrannu at hanner cost bwrsariaeth galedi gyfartalog, gan roi i'r myfyriwr y sefydlogrwydd sydd ei angen arno i ddilyn ei addysg.