Adborth a Chwynion

Mae tîm Datblygu a Chyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth ardderchog ac i drin pob cyfrannwr gyda’r lefel uchaf o ofal a pharch.

Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau ac adborth am y ffordd yr ydym yn gweithio. Os ydych yn anhapus gydag unrhyw elfen o’n codi arian, hoffem glywed am hynny. Yn aml y math hwn o adborth sy’n rhoi cyfle i ni ddysgu a gwella.

I wneud cwyn gallwch gysylltu â ni trwy’r dulliau canlynol:

  • E-bost: alumni@swansea.ac.uk
  • Trwy’r Post: Swyddfa Datblygu a Chyn-fyfyrwyr, Abaty Singleton, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP

Ar ôl i ni dderbyn eich cwyn byddwn yn:

  • Trin eich cwyn yn ddifrifol, gyda thegwch a dealltwriaeth;
  • Ceisio ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith o dderbyn y gŵyn;
  • Ceisio datrys y mater yn llawn o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn y gŵyn;
  • Defnyddio eich cwyn yn gadarnhaol fel cyfle i ddysgu a gwella.

Gobeithiwn yn wir y gallwn ddatrys eich cwyn yn onest, agored a boddhaol. Fodd bynnag, os ydych yn parhau i fod yn anhapus ar ôl cysylltu â ni, rhowch wybod i ni a byddwn yn trosglwyddo’ch cwyn ymlaen i Uwch Reolwr arall.

Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon gydag ymateb y Brifysgol, mae gennych hawl i fynd â’ch cwyn i’r Rheoleiddiwr Codi Arian a fydd yn cynnal ymchwiliad annibynnol. Gweler eu gwefan nhw am fanylion pellach: www.fundraisingregulator.org.uk.

Os hoffech ddarganfod mwy am sut mae Swyddfa Datblygu a Chyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn trin a defnyddio eich data, darllenwch ein Datganiad Diogelu Data.