Luke Green, Coffee GoGo

Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe'n helpu i roi profiad coffi cynaliadwy i gwsmeriaid gyda'i fusnes sy'n tyfu.

Sefydlodd Luke Green, sy'n 20 oed ac yn fyfyriwr yn ei ail flwyddyn yn yr Ysgol Reolaeth, GoGo Coffee ym mis Chwefror  lle mae'n gweini coffi o gefn ei Smart Car carbon isel.   

Mae'r peirannau coffi'n rhedeg ar fatri yng nghist ei gar ac mae'n defnyddio coffi lleol a chwpanau bio-dafladwy.  

Wedi iddo brynu'r car, gwireddwyd ei weledigaeth a'i ethos fel rhan o fodiwl entrepreneuriaeth ei gwrs. 

Hefyd derbyniodd gyllid gwerth £2,200 gan GoCompare, sy'n cynnig cyfran o gyllid i fusnesau amrywiol. Galluogodd y buddsoddiad hwn i Luke yswirio ei gerbyd a hefyd i dalu am stoc ac uned storio.

"Rwy'n dwlu ar y ffaith fy mod i'n gallu gweithio ar fy angerdd i redeg fy musnes fy hun ar yr un pryd ag astudio," meddai Luke, sy'n dod o Ddinbych-y-pysgod.

"Mae dysgu annibynnol yn rhan fawr o'm cwrs sy'n ffordd aeddfed o astudio gan mai chi sy'n gorfod gwneud y gwaith a sicrhau eich bod yn defnyddio'ch amser yn dda."

"Rwy'n defnyddio llawer o goffi organig lleol sy'n golygu fy mod i'n helpu i gefnogi busnesau lleol eraill, yn ogystal â'r ffaith bod y diodydd yn dod mewn cwpanau bio-dafladwy. Rwy'n cynnig disgownt i gwsmeriaid sy'n dod â'u cwpanau amldro eu hunain."

"Roedd sefydlu fy musnes fy hun yn rhan o'm gradd yn ymrwymiad mawr, ond mae'n wych gwybod y bydd e gyda fi pan fyddaf yn graddio."

Fodd bynnag, mae Luke yn cyfaddef nad coffi oedd ar ei feddwl pan oedd yn ystyried sefydlu ei fusnes ei hun i ddechrau. 

"Pan oeddwn i yng Ngholeg Sir Benfro, ces i'r syniad o redeg cart candi-floss a hufen iâ ar feic," meddai. 

"Ond ar ôl i mi lwyddo yn fy mhrawf gyrru, gwnes i ystyried opsiynau eraill a fyddai'n caniatáu i mi deithio ymhellach a gweini cynulleidfa fwy. Dyma pryd cafodd GoGo Coffee ei sefydlu.

"Mae gallu gyrru i leoedd amrywiol a gweini coffi wir wedi fy helpu i gael gwynt dan adain fy musnes.

"Yn y dyfodol rwy'n gobeithio cael masnachfreintiau yn rhedeg busnesau GoGo Coffee ar draws y DU."