Canisha Chakadya

MENTER GYMDEITHASOL I FYFYRWYR

Canisha Chakadya headshot

Canisha chakadya, phoenix subscription

Mae Canisha, a oedd yn fyfyriwr BA mewn Rheolaeth Fusnes rhwng 2006 a 2010, wedi bod yn rhan o sawl digwyddiad a gweithdy entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Yn 2018, enillodd Canisha leoliad entrepreneuraidd 4 wythnos o hyd yn ein cystadleuaeth "Big Pitch" a chafodd brofiad gwych yn Cereate Studios yn Swindon dan arweiniad Shahina Johnson MBE.

Ym mis Tachwedd 2018, cafodd Canisha le yng ngwersyll hyfforddiant dwys Syniadau Mawr Cymru ar gyfer busnes, sef cyfle gwych arall i entrepreneur addawol.

Yn 2019, yn ystod ei thrydedd blwyddyn allan, lansiodd Canisha ei busnes menter gymdeithasol ei hun - Phoenix Subscriptions ac mae wedi bod yn elwa o'r Hyb Inciwbeiddio a chymorth gan y tîm entrepreneuriaeth i helpu i ddatblygu ei busnes.