R J Willey

R J Willey

Graddiodd yr Athro B Willey â BSc mewn Ffiseg ym 1967 a PhD mewn Gwyddor Deunyddiau ym 1971. Yn ei farn, darparodd Prifysgol Abertawe sylfaen ragorol iddo mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg sydd wedi’i alluogi i ddatblygu a rheoli busnes gwerth miliynau o bunnoedd ar sail ei ymchwil yn y Brifysgol. Mae’r Athro Willey wedi rhoi swm sylweddol i gefnogi myfyrwyr mewn caledi ym Mhrifysgol Abertawe, yn y gobaith y bydd myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig sy’n dangos rhagoriaeth academaidd, ar y cyd ag uchelgais amrwd i lwyddo, yn gwneud gwahaniaeth i’r byd.

“Ces i fy ngeni yng Nghwm Rhondda a des i i Brifysgol Abertawe o gefndir dan anfantais a difreintiedig iawn. Doedd  neb yn fy nheulu erioed wedi astudio mewn prifysgol na sefyll arholiadau Safon Uwch, felly roedd hi’n anodd torri tir newydd.  Fodd bynnag, roeddwn i’n sbortsmon brwdfrydig ac, yn ffodus, ces i fy helpu drwy sawl cyfnod anodd gan y ffrindiau wnes i drwy’r gweithgarwch hwn. Wrth i mi symud drwy fy chwe blynedd o astudio, dechreuodd pethau wella a datblygais i sylfaen ardderchog mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Symudais i fyd busnes amser llawn ym 1998 ac, ar hyn o bryd, fi yw Rheolwr Gyfarwyddwr yr ACS Group. Mae pencadlys y busnes yn Glasgow ond rwyf i a’m tîm wedi darlithio a gweithio yn y DU, Ewrop, Twrci, Canada, UDA, India, Affrica, Awstralia, Ynysoedd Falkland a Japan.”

“Drwy fy ngweithgarwch academaidd, roeddwn i’n gyfrifol am ddatblygu rhaglenni ymchwil o bwys i ganfod ac adnabod ffibrau asbestos, effeithiolrwydd diogelwch resbiradol yn erbyn asbestos yn yr awyr a rheoli risg o dir a halogwyd gan asbestos. Cafodd fy ngwaith ei gyhoeddi mewn cyfnodolion ymchwil rhyngwladol a’i gyflwyno mewn cynadleddau rhyngwladol. Ar ben hynny, arweiniodd at newidiadau yn rheoliadau asbestos y DU a chredir bod y rhain yn arbed o leiaf 100 o fywydau bob blwyddyn yn y diwydiant tynnu asbestos. Yn sgil cyflwyno Rheoliad 4 (y “ddyletswydd i reoli”) i’r Rheoliadau Asbestos yn 2002, gweithiais i’n agos iawn gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ddatblygu pecynnau hyfforddiant newydd er mwyn cyflwyno’r cysyniadau newydd. Chwaraeais i ran allweddol wrth sefydlu Cymdeithas Hyfforddiant Asbestos y DU (UKATA) yn 2008. Rwyf wedi derbyn Gwobr Llywydd y Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol am Wasanaeth Nodedig a’r wobr urddasol am Ymdrechion Clodwiw mewn Iechyd Amgylcheddol a gyflwynwyd gan Sefydliad Iechyd Amgylcheddol yr Alban (REHIS).”

“Rwy’n falch o’r hyn rwyf wedi’i gyflawni drwy ddeallusrwydd sylfaenol, uchelgais amrwd ac, yn bwysicaf oll, sylfaen addysgol ardderchog rwy’n ddiolchgar iawn i Brifysgol Abertawe amdani.”