Brenda Dawson

brenda dawson

Yn ddiweddar, siaradon ni â chyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe Brenda Dawson a raddiodd â gradd anrhydedd mewn Daeareg ym 1948. Dychwelodd Brenda i ddilyn cwrs DipEd yn y mis Hydref canlynol. Dyma rai o’i hatgofion am Abertawe.

Ym 1945 cafodd yr isafswm oedran ar gyfer cael eich derbyn i’r brifysgol ei ostwng i 17 oed a 4 mis a olygodd fy mod yn gymwys i dderbyn lle astudio. Ym mis Hydref y flwyddyn honno cyrhaeddais Brifysgol Abertawe ar gyfer Gwˆ yl y Glas lle dechreuais fy nghyfnod yn Neuadd Beck sef rhywle y byddwn i’n byw am y 4 blynedd nesaf.

Miss Mary Wilkinson oedd Warden y Neuadd a galwodd y myfyrwyr newydd i’r Ystafell Gyffredin ar ôl cinio un noson er mwyn dangos i ni sut i wneud ein gwelyau. Roedd “pennau amlen” yn orfodol. Ni soniwyd fodd bynnag am sut y dylem gynnau’r tannau yn ein hystafelloedd i gadw’n ddiogel. Nid oedd gwres canolog i’w gael yn ystod y blynyddoedd hynny a derbynion ni un gist o lo bob dydd a byddai’r mwyafrif ohonom ni’n cadw honno tan y noson. Weithiau byddwn ni’n gwersylla yn ystafelloedd ein ffrindiau a rhannu tân er mwyn arbed ein cyflenwad o lo. Un atgof sydd gennyf hyd heddiw bod Miss Wilkinson wedi gadael neges ar fwrdd y Neuadd yn gofyn i mi fynd i’w gweld hi. Roeddwn i’n pryderu’n fawr fy mod wedi gwneud rhywbeth drwg iawn ond heb yn wybod i’r myfyrwyr roedd llong bananas wedi docio yn y Barri, De Cymru ac roedd gan bawb a oedd yn berchen ar lyfr dogni glas hawl i gael un fanana. Dim ond pobl o dan 18 oed oedd yn berchen ar lyfrau dogni glas felly fi oedd yr unig fyfyriwr cymwys.

Roedd gallu rhannu’r fanana honno gyda’m ffrindiau ar ôl cinio yn foment brin a chyffrous oherwydd nad oedd un ohonom wedi gweld na blasu banana ers dros 6 mlynedd. Rwy’n fodlon cyfaddef fy mod yn chwennych bananas yn fwy nag unrhyw ffrwyth arall o hyd. Yn y mis Hydref dechreuais fy mywyd yn Neuadd Beck, ymunodd grwˆ p o ryw 20 o filwyr o’r Unol Daleithiau â’r Brifysgol er cyffro mawr ymhlith y menywod! Roeddent yn rhan o gynllun a gynigiwyd gan rai prifysgolion i roi lleoedd i filwyr Americanaidd yn Ewrop yr oedd y rhyfel wedi amharu ar eu hastudiaethau yn y brifysgol. Roedd hon yn ffordd o’u galluogi i ymgyfarwyddo â bywyd y brifysgol eto cyn ailddechrau ar eu hastudiaethau yn eu gwlad eu hunain.

Bu’r Americanwyr yn hael ac yn ystod y digwyddiad Diolchgarwch ym mis Tachwedd trefnwyd cinio ym Mwyty Canopic yn y Mwmbwls ac roedd pob un yn gallu dod â gwestai. Ar ddiwedd tymor yr hydref hwnnw gwahoddodd y milwyr Americanaidd bob un o fenywod Neuadd Beck i Ddawns Ffarwelio a gynhaliwyd iddynt yn Neuadd Brangwyn. Hefyd cynhaliodd Neuadd Beck Barti Nadolig ac roedd modd i ni wahodd un gwestai. Roedd y milwyr yn boblogaidd iawn ac roedd y peirianwyr bob amser yn gwmni da! Fel arfer ar nosweithiau Sadwrn cynhaliwyd “hop” mewn un o’r cabanau dros dro ger y Ffreutur. Ar ôl hynny byddai rhai o’r milwyr Americanaidd yn hebrwng y menywod yn ôl i Neuadd Beck cyn i Miss Wilkinson gloi’r drws ffrynt am 10.30pm. Byddai’r dynion yn cerdded i ffwrdd gan ganu “Nos da ferched!”

brenda and friends group photo