Varsity graphic - Virtual Varsity Challenge 29.04.2020

CWIS YN CYCHWYN AM 8PM NOS FERCHER 29 EBRILL

Croeso i Her Varsity Rhithwir 2020! Ymunwch â'r fyddin gwyrdd a gwyn, Ryan Jones a gwesteion arbennig eraill yn ein cwis Varsity Rhithwir cyntaf erioed er mwyn codi arian hollbwysig ar gyfer cronfa ymateb Prifysgol Abertawe i COVID-19. Bydd y gronfa'n ein helpu i ddarparu'r amgylchedd mwyaf cefnogol a gofalgar posib i'n myfyrwyr y mae'r argyfwng wedi effeithio arnynt, yn ogystal â chefnogi ein hacademyddion o'r radd flaenaf gydag ymchwil bwysig sy'n gysylltiedig â COVID-19. Sylwer bod y cwis wedi'i recordio ymlaen llaw er mwyn sicrhau y gallwch ei fwynhau'n ddi-dor.

Taflen cwestiynau.

Ein Cefnogaeth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch gronfa ymateb
Prifysgol Abertawe i Covid-19