Ynglŷn â'r prosiect

In the course of two posts I had letters from a Polish Prince, a great dealer in Cattle, one of the most distinguished of our Literati, my Northern Steward, a great Scotch Philosopher, my head Carpenter in Portman Square, the sweet Minstrel Dr Beattie, an artist at Birmingham, my Baillif at Sandleford & many characters between these extremes.’ 

Mae amrywiaeth pur yn ogystal â hyd anarferol llythyron yng nghasgliad Llyfrgell Huntingdon o ohebiaeth helaeth Elizabeth Montagu wedi cynnig ffynhonnell gyfoethog, yn ogystal â her ymarferol, i ysgolheigion sy'n gweithio mewn amrywiaeth o feysydd, o hanes cymdeithasol ac economaidd i hanesion meddygaeth, estheteg, hunaniaeth yr awdur a genre llenyddol. Roedd Elizabeth Robinson Montagu (1718-1800) yn cyfuno llawer o rolau: beirniad Shakespeare arloesol, menyw fusnes a oedd yn rheoli pyllau glo ac ystadau amaethyddol, dyngarwraig a noddwraig artistiaid ac awduron. Roedd yn rhan o sawl rhwydwaith pwysig: cymdeithasol, gwleidyddol, crefyddol a deallusol. Mae ei llythyron yn cysylltu pobl, lleoedd a chysyniadau gydag uniongyrchedd graffig. Yn 2017, sefydlwyd yr elusen gofrestredig Elizabeth Montagu Correspondence Online (EMCO) i ariannu'r broses o ddigideiddio ei 8,000 o lythyron llawysgrifol sydd wedi goroesi, y mae saith o bob wyth ohonynt wedi'u curadu gan Lyfrgell Huntington, Califfornia.

Mae tîm rhyngwladol o ysgolheigion llenyddol ac arbenigwyr ym maes y Dyniaethau Digidol yn paratoi argraffiad ar-lein o'r ohebiaeth, gyda help ariannol gan roddwr dyngarol yn ogystal â Chyngor Ymchwil Celfyddydau a Dyniaethau'r DU, Sefydliad Foyle, Canolfan Celf Brydeinig Paul Mellon a Chymdeithas Ymchwil y Dyniaethau Modern. Arweinydd y prosiect yw'r Athro Caroline Franklin (Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe); datblygwyd y wefan gan Reolwr y Dyniaethau Digidol, Alexander Roberts (GGS, Prifysgol Abertawe); y Prif Olygydd yw'r Athro Nicole Pohl (Prifysgol Oxford Brookes) a Rheolwr y Prosiect yw Dr Joanna Barker. Mae gan y prosiect ddau Ymchwilydd Cysylltiol, sef Dr Anna Senkiw a Dr Jack Orchard.

Yn ein rhifyn digidol, gellir gweld delweddau o'r llawysgrifau ochr yn ochr â thrawsgrifiadau diplomyddol a nodiadau ysgolheigaidd, mapiau, lluniau a hyperddolenni i wefannau perthnasol, y maent oll yn ei gwneud hi'n bosib i durio i'r ohebiaeth am wybodaeth a chynnig data newydd ar gyfer ymchwil bellach, yn enwedig wrth ehangu ein dealltwriaeth o'r rôl a chwaraewyd gan fenywod yn yr Ymoleuo Prydeinig. Ystyrir yr 8,000 o lythyron sydd wedi goroesi  'ymhlith y casgliadau pwysicaf sydd wedi goroesi o'r ddeunawfed ganrif' (Schnorrenburg). Mae llai na chwarter o'r dogfennau hyn eisoes wedi cael eu hargraffu, ac mewn detholiadau argraffedig hynafol rhannol yn unig. Bydd gwneud yr ohebiaeth hon yn gwbl hygyrch yn taflu goleuni newydd ar hanes deallusol menywod ac yn cynnig data ar gyfer ymchwil bellach i lenyddiaeth, ieithyddiaeth, y theatr, celf a phensaernïaeth a masnach, yn ogystal â rhwydweithio deallusol a genre’r llythyr.

Mae gan y tîm ymchwil, dan arweiniad yr Athro Caroline Franklin, gysylltiadau byd-eang ag ysgolheigion yr Ymoleuo, gan hefyd ymgysylltu â'r curadwyr a'r llyfrgellwyr hynny sy'n gofalu am y papurau gwerthfawr hyn ac yn eu gwarchod. Crëwyd gwefan a blogiau ar gyfer y prosiect, ac mae gweithgaredd ar y cyfryngau cymdeithasol yn galluogi’r rhwydwaith i ddilyn y diweddaraf ar gynnydd yr EMCO. Erbyn 2020, bydd hanner eitemau  gohebiaeth Elizabeth Montagu yn Llyfrgell Huntington wedi cael eu digideiddio, a bydd rhestr gyfoes o eitemau  wedi'i chreu gan ein dau Ymchwilydd Cysylltiol. Gyda chymorth y prosiect Almaenaidd Transkribus, mae’r EMCO wedi defnyddio'r dechnoleg llawysgrifen ddiweddaraf i ddarparu trawsgrifiadau o'r llythyron i'r tîm golygu. Comisiynwyd arbenigwyr ar bob gohebydd i gynnig nodiadau a chyflwyno pob cyfeillgarwch epistolaidd. Bellach, rydym ni'n agos at gyhoeddi rhan gyntaf yr argraffiad a fydd yn cynnwys tua chwarter o lythyron Elizabeth Montagu.

Portrait of Frances Reynolds.