Y Prosiect

Mae'r prosiect hwn yn ymchwilio i waith ffuglen a gohebiaeth breifat yr awdur dyneiddiol meddygol, François Rabelais, i ddangos sut y llywiodd ei wybodaeth feddygaeth broffesiynol  ei ymagwedd at ysgrifennu gweithiau ffuglen a'i uchelgeisiau ar gyfer yr hyn y byddai ei lyfrau yn ei gyflawni ymhlith ei ddarllenwyr.

Mae Rabelais yn llais uchel yn niwylliant Ewropeaidd y mae ei ddylanwad i'w weld y tu hwnt i lenyddiaeth bur, gan ymestyn i feysydd meddygaeth, y gyfraith, diwinyddiaeth, athroniaeth a damcaniaeth hiwmor. Dywed yn aml fod ei arddull idiosyncratig o ysgrifennu a chyfuno genres a disgyblaethau wedi dylanwadu ar ysgrifenwyr y tu allan i'r byd Ffrangeg ei iaith, gan gynnwys Sterne, Márques a Bakhtin, er enghraifft.

Portrait of Alison Williams

Dr Alison Williams sy'n arwain y prosiect.

Darparwyd cyllid ar gyfer y prosiect cychwynnol gan Ymddiriedolaeth Wellcome.

Bydd yr ymchwil yn arwain at gyhoeddi monograff o bwys ar rôl meddygaeth yng ngwaith llenyddol Rabelais a'i lythyron preifat.

"Mae Rabelais yn rhagweld llawer o'n syniadau cyfoes ynghylch rôl therapi celf"

PROSIECTAU YMCHWIL ERAILL

Mae Alison yn aelod o'r Ganolfan Ymchwil Canoloesol a Modern Cynnar a Chanolfan Ymchwil y Dyniaethau Meddygol.

Mae'r ddau grŵp ymchwil yn gartrefi i nifer o brosiectau ymchwil arloesol ym maes eang y Dyniaethau Meddygol, gan gynnwys y prosiectau ymchwil mawr canlynol, hefyd wedi'u hariannu gan Ymddiriedolaeth Wellcome:

  • Anabledd a'r Gymdeithas Ddiwydiannol: hanes diwylliannol a chymharol o byllau glo Cymru, 1780-1948 | Cyd-gyfarwyddwyr: Yr Athro Ann Borsay a Dr David Turner