Logo for Disability and Industrial Society

Ariennir Anabledd a Chymdeithas Ddiwydiannol gan Ddyfarniad Rhaglen gwerth £972,501 gan Ymddiriedolaeth Wellcome a gynhelir am bum mlynedd. Bydd yn gorffen ym mis Medi 2016.

Mae'r prosiect yn gofyn pa effeithiau a gafwyd ar ddealltwriaeth a phrofiadau o anabledd gan ddatblygu diwydiannol o ddegawdau olaf y ddeunawfed ganrif tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar y diwydiant glo oherwydd y niferoedd uchel o ddamweiniau a'r clefydau cyffredin a oedd yn gysylltiedig â'r diwydiant ac mae'n cymharu tri maes glo yn ne Cymru, gogledd-ddwyrain Lloegr a chanolbarth yr Alban.

Rhwng 2011 a 2014, cyd-gyfarwyddwyd y prosiect gan yr Athro Anne Borsay a'r Athro David Turner Prifysgol Abertawe, ill dau yn arbenigwyr ym maes hanes anabledd. Yn dilyn marwolaeth yr Athro Borsay ym mis Awst 2014, mae'r prosiect bellach yn cael ei arwain gan yr Athro Turner. Bellach, mae e'n cydweithio â chydweithwyr yn Abertawe, gan gynnwys Dr Kirsti Bohata, a phartneriaid o Brifysgolion Aberystwyth, Northymbria, Glasgow Caledonian a Strathclyde.

Caiff syniadau o hanes cymdeithasol a diwylliannol eu cymhwyso i amrywiaeth eang o ffynonellau, gan gynnwys papurau seneddol, adroddiadau swyddogol, testunau meddygol, cofnodion cwmnïau mwyngloddio, undebau llafur, elusennau a Deddf y Tlodion, papurau newydd, dyddiaduron a nofelau.

Cyhoeddir canlyniadau academaidd y prosiect mewn llyfrau, erthyglau a chyflwyniadau mewn cynadleddau. Cynhelir digwyddiadau cyhoeddus hefyd yn y tri maes glo a bydd arddangosfa yn teithio Cymru mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.