Yn ôl yr arolwg iechyd diweddaraf, dywedodd oddeutu 1 o bob 7 oedolyn yng Nghymru (neu 15%) fod ganddynt anawsterau wrth glywed (Llywodraeth Cymru, 2013, tud. 11). Cynyddodd y broblem iechyd hon gydag oedran, gan effeithio ar oddeutu traean o ddinasyddion sy’n 65 oed ac yn hŷn a chan effeithio’n fwy ar ddynion na menywod. Amcangyfrifodd astudiaeth yn 2010 mai Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yw iaith gyntaf, neu’r iaith a ffefrir, gan oddeutu 3,000 o bobl yng Nghymru (Siôn, 2010). Erbyn 2031, rhagwelir y bydd dros 725,000 o bobl yng Nghymru sy’n colli eu clyw (Iechyd Meddwl mewn Gofal Sylfaenol yng Nghymru, nid oes dyddiad).

Dengys ymchwil academaidd y gallai’r cyfryngau gweledol (yn enwedig teledu) liniaru effeithiau corfforol, meddyliol a chymdeithasol eithrio cymdeithasol a rhwystredigaeth ar gyfer y gymuned fyddar/drwm ei chlyw (Austin, 1980; Austin & Myers, 1984). Rydym yn credu bod teledu, yn y bôn, yn ffurf ar dechnoleg gynorthwyol a gallai alluogi’r gymuned fyddar/drwm ei chlyw i gael mynediad at fwy o wybodaeth a gwasanaethau.

Cymru yw’r wlad teledu digidol gyntaf yn y DU ers cwblhau’r broses o drosglwyddo i ddigidol ym mis Mawrth 2010 (DigitalUK, 2012) a chyflwynodd y chwyldro technolegol hwn ffyrdd newydd o ledaenu data a drawsnewidiodd y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio â gwasanaethau teledu ynghyd â’r ffyrdd y mae pobl yn cael gwybodaeth o’r teledu. Mae gan gynulleidfaoedd ffordd newydd o gael mynediad drwy blatfformau amrywiol (megis Freeview, cebl, lloeren a’r rhyngrwyd) ynghyd â rhagor o raglenni i’w dewis. Fodd bynnag, mae’r mesurau rheoleiddio presennol yn rhoi mwy o bwyslais ar y maint (e.e. canran y rhaglenni teledu sydd ag is-deitlau) yn hytrach na’r ansawdd. Gallai pwysleisio’n ormodol ar faint yr is-deitlau arwain at hepgor cyfyngiadau eraill sy’n gysylltiedig ag ansawdd (megis ansawdd sŵn gwael rhaglenni teledu) y mae cynulleidfa fyddar/drwm ei chlyw’n eu hwynebu.

Ar gyfer yr ymchwil hon, ein nod yw:

  • nodi patrymau mabwysiadu a defnyddio teledu digidol o fewn y gynulleidfa fyddar/drwm ei chlyw yng Nghymru;
  • gwerthuso effeithiau Teledu Digidol sy’n galluogi’r gymuned fyddar/drwm ei chlyw yng Nghymru a’r effeithiau nad ydynt yn eu galluogi;
  • darparu adroddiad cynhwysfawr o awgrymiadau gan wylwyr byddar a rhai sy’n drwm eu clyw ar wella’r gwasanaeth teledu digidol.

Dechreuodd y prosiect fel astudiaeth beilot, wedi’i hariannu gan Raglen Agored Pontio’r Bylchau.

Mae dyfarniad diweddar gan Action on Hearing Loss Cymru, BBC Cymru, Pontio’r Bylchau, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe ac S4C yn galluogi’r ymchwil i symud i gam empirig.

Teledu digidol a Chynulleidfaoedd Byddar/Trwm eu Clyw yng Nghymru (PDF) 

PROSIECT CYFRYNGAU DIGIDOL A DEFNYDDWYR SYDD Â NAM AR Y SYNHWYRAU

DR YAN WU: DEFNYDDIO’R CYFRYNGAU DIGIDOL AC AGWEDDAU POBL SYDD Â NAM AR Y SYNHWYRAU

Logo for the Cherish DE partnership.

CYFLWYNIAD Y PROSIECT

Mae’r prosiect ymchwil hwn yn archwilio i sut mae Technolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu’n galluogi pobl sydd â nam ar y synhwyrau a beth yw’r rhwystrau presennol rhag hygyrchedd digidol y mae defnyddwyr sydd â nam ar y golwg a rhai sydd â nam ar ddau synnwyr yng Nghymru’n eu hwynebu. Amcan allweddol yr ymchwil yw darparu data empirig ar ddefnydd o’r cyfryngau gan oedolion sydd â nam ar y synhwyrau a’u hagweddau ar draws amrywiaeth o gyfryngau digidol, gyda ffocws ar ddefnydd ar-lein ac agwedd.

Mae ymchwil i ddefnydd o’r cyfryngau digidol gan oedolion a’u hagweddau wedi denu sylw gan lunwyr polisïau, diwydiant y cyfryngau, darparwyr gwasanaethau, rheoleiddwyr y cyfryngau a’r cyhoedd cyffredinol. Fodd bynnag, mae ymchwil bresennol yn aml wedi cael ei chyfyngu drwy ganolbwyntio ar ddefnyddwyr nad ydynt yn anabl ac, yn enwedig, bobl a fabwysiadodd y cyfryngau digidol a thechnolegau cyfathrebu’n gynnar. Mae ymchwil presennol yn aml yn darparu delwedd gyffredinol o’r tirlun digidol wrth esgeuluso gwahaniaethau rhwng grwpiau cymdeithasol amrywiol sydd dan anfantais.

Mae’r prosiect ymchwil hwn yn ymchwilio i ddefnydd o’r cyfryngau digidol gan oedolion (16 oed ac yn hŷn) yng Nghymru sydd â nam ar y synhwyrau, a’u hagweddau. Y ddau brif faes a gaiff eu hymchwilio yw: Yn gyntaf, nifer y bobl sy’n mabwysiadu ac yn defnyddio’r cyfryngau digidol, y rhyngrwyd, llechi, cyfathrebu drwy neges destun, y cyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau eraill ar-lein; Yn ail, dealltwriaeth feirniadol o’r cyfryngau digidol: agweddau defnyddwyr tuag at hygyrchedd y cyfryngau, diogelwch ar-lein, preifatrwydd ar-lein, dealltwriaeth o beiriannau chwilio a strategaethau lliniaru wrth ddefnyddio’r cyfryngau digidol.

Mae Cam 1 y prosiect (2017-2018) yn cynnwys astudiaeth feintiol sy’n seiliedig ar arolwg o aelodau RNIB yng Nghymru. Nod yr arolwg yw datgelu posibiliadau cyfathrebu’r cyfryngau ynghyd â’r rhwystrau y mae defnyddwyr sydd â nam ar y golwg a’r clyw’n eu hwynebu rhag cael mynediad at y cyfryngau digidol a’u defnyddio. Mae Cam 2 y prosiect (2018-) yn cynnwys ymchwil grŵp ffocws ansoddol mewn labordai sydd â’r nod o gael mewnwelediadau i addasu’r cyfryngau digidol gan y defnyddwyr sydd â nam ar y synhwyrau.

Ariennir y prosiect ymchwil gan Ganolfan CHERISH-DE ym Mhrifysgol Abertawe ac mae’n cynnwys tîm ymchwil amlddisgyblaethol. Y prif ymchwilydd yw Dr Yan Wu o Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu. Mae aelodau eraill o’r tîm yn cynnwys: Dr Stephen Lindsay, Dr Rhys Jones, Dr Leighton Evans, Dr Xianghua Xie a Dr Jonathan Cable.