Symposia’r Canmlwyddiant: Raymond Williams yng nghyfnod Globaleiddio

Trefnwyd Symposia’r Canmlwyddiant gan y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe. Maent yn cymryd eu lle ymysg amrywiaeth o weithgareddau rhyngwladol sy'n nodi Canmlwyddiant un o ddeallusion pwysicaf Cymru.

Beth mae’n ei olygu i drafod a chofio Raymond Williams ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant? Yn ei gyfrol Towards 2000 (1983) roedd Williams eisoes yn cydnabod fod system Westphalia o wladwriaethau cenedlaethol yn dod i ben yn wyneb rhwydweithiau byd-eang y corfforaethau rhyngwladol, ac yn nodi bod y globaleiddio a ddaw yn sgil cyfalafiaeth gyfoes yn cymylu’r gwahaniaeth rhwng y 'craidd' a’r 'cyrion', gan drawsnewid strwythurau gwaith a chysylltiadau cymdeithasol. Dadleuodd fod gwleidyddiaeth draddodiadol y Chwith Lafuraidd, â’i ragdybiaeth mai’r wladwriaeth Brydeinig oedd cyd-destun anochel gweithredu gwleidyddol, yn colli ei berthynasedd. Wrth ddiffinio ei hun yn Gymro-Ewropeaidd roedd Raymond Williams yn ceisio newid y ffrâm ar gyfer dadansoddi diwylliannol a gweithredu gwleidyddol fel ei gilydd. Rhagwelai ffurfiau newydd o gysylltiadau gwleidyddol yn datblygu ymysg mudiadau blaengar y Gorllewin; sosialwyr, cenedlaetholwyr lleiafrifol, a’r gwyrddion. Roedd ei draethodau hwyr yn barhad o'i ymdrechion gydol-oes i ddychmygu fframweithiau amgen ar gyfer meithrin diwylliant a gwleidyddiaeth flaengar. Nododd ym 1961 fod y ‘chwyldro hir-dymor’ (‘long revolution’) i ehangu cyfleoedd addysgol, gweithgarwch wleidyddol ddemocrataidd, cydraddoldeb economaidd ac i ryddhau potensial y ddynoliaeth yn ‘dal yn ei ddyddiau cynnar’. O’i ail-adrodd mewn cyd-destun rhyngwladol, mae'r datganiad hwnnw'n parhau i fod yn wir heddiw.

Roedd ymwybyddiaeth hanesyddol Williams yn caniatau iddo archwilio traddodiadau o feddwl blaengar yn y gorffennol, gan gario’r ‘ffynonellau gobaith’ a ganfyddai yn ei ymchwil i’r presennol ac i’n dyfodol. Mae’r symposia yma yn tynnu ar y dimensiwn hwn o’i feddwl. Gan ganolbwyntio ar Ewrop, Brasil, Japan a Tsieina, nod y gyfres yw gosod ysgrifau Williams o fewn gwahanol gyd-destunau cenedlaethol, rhyngwladol a chymharol mewn ymgais i archwilio ei ddylanwad, ei etifeddiaeth a’r elfennau hynny o’i waith a’i feddwl sydd yn parhau’n berthnasol yn ein cyfnod ni.

Byddwn yn ceisio defnyddio'r wefan hon i hyrwyddo ein gweithgareddau ein hunain, ond hefyd i hyrwyddo a chynnwys digwyddiadau eraill. Os hoffech i ni hyrwyddo digwyddiad ar ein blog, cysylltwch â Eve Johnson: Eve.Johnson@abertawe.ac.uk