Maniffesto ar gyfer Heddiw!

Prifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â Chweched Dosbarth Sir Gaerfyrddin ac Academi Seren Dyfed

Cefndir: Mae Seren yn fenter addysg a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd â’r nod o gefnogi gyrfaoedd academaidd myfyrwyr Cymru. Mae'n cael ei redeg yn rhanbarthol, ac mae Sir Gaerfyrddin yn rhan o Seren Dyfed. Mae CREW wedi cyd-weithio gyda Seren dros y blynyddoedd diweddar, â’r profiad o weithio gyda academwyr a myfyrwyr ôl-radd wedi bod o fudd arbennig i’r disgyblion ysgol.

Prosiect Maniffesto 2021 a 2022

Mewn trafodaethau anffurfiol â myfyrwyr Seren yn ystod y pandemig, daeth yn amlwg bod llawer eisiau trafod y trobwynt hwn yn ein hanes, ac archwilio ei effeithiau ar gymdeithas. Path o Gymru yr hoffent ei weld yn y dyfodol? Mae’r prosiect hwn yn gyfle i drafod y problemau a wynebir, a’r atebion sydd eu hangen i greu Cymru decach a chynaliadwy wedi’r pandemig.

A hithau’n ganmlwyddiant Raymond Williams, penderfynwyd datblygu’r cysylltiad sydd eisoes yn bodoli rhwng yr Athro Daniel G. Williams a Seren Dyfed, drwy droi at The May Day Maniffesto 1968 fel man cychwyn amlwg ar gyfer deall natur maniffesto gwleidyddol a chymdeithasol. Mae grŵp o fyfyrwyr o rai o ddosbarthiadau chweched dosbarth Sir Gaerfyrddin wedi cael copïau am ddim o’r May Day Maniffesto (a olygwyd gan Raymond Williams) oddi wrth Gwasg Verso ac mae Gŵyl y Gelli wedi darparu fideo o’r drafodaeth ddiweddar ar waith Raymond Williams rhwng Daniel, Michael Sheen a Leanne Wood.

Rhoddwyd cychwyn ar y prosiect Maniffesto! ar ffurf cyfarfod dros zoom, lle cyflwynodd Daniel, yr Athro Kirsti Bohata a’r awdur Rhian E. Jones bapurau amrywiol ar syniadau Williams ynghylch cenedligrwydd, yr amgylchedd a dosbarth cymdeithasol. Mewn dwy sesiwn ar-lein ddilynol, dan gyfarwyddyd fyfyriwr ôl-raddedig o Abertawe -  Eve Johnson, Tomos Williams (2021) ac Angharad Williams (2022) - cafwyd trafodaethau gyda'r myfyrwyr ar y themâu a'r syniadau a fyddai, yn eu barn hwy, yn bwysig mewn Maniffesto ar gyfer eu cenhedlaeth. Dros yr haf bydd y myfyrwyr yn ymchwilio eu themâu dewisol mewn parau.

Rydym yn gobeithio y bydd y myfyrwyr yn cwrdd wyneb yn wyneb yn yr Hydref ac yn barod I rannu eu gwaith a’i gyhoeddi, o bosib, yn rhan o flog ar wefan dathliadau’r canmlwyddiant ym Mhrifysgol Abertawe. Yn y pen draw, bydd y gwaith yn cael ei gyflwyno i gynghorwyr a gwleidyddion lleol er mwyn rhannu gweledigaeth pobl ifanc o'r dyfodol y maen nhw yn ei ddeisyf i Sir Gaerfyrddin, Dyfed, Cymru a thu hwnt.

Julian Dessent