Shintaro Kono

Mae Shintaro Kono yn Athro ym Mhrifysgol Senshu, Tokyo. Ei feysydd ymchwil yw llenyddiaeth Brydeinig a Chymraeg, theori lenyddol, astudiaethau rhywedd ac astudiaethau diwylliannol. Roedd yn Gymrawd Canolfan Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe yn 2015-16. Mae ei waith cyhoeddedig yn cynnwys Fighting Princesses, Working Girls (yn Japaneaidd, Horinouchi Publishing, 2017) a The Genealogy of the Country and the City: The 20th Century Britain and the Map of ‘Culture’ (yn Japaneaidd, Minerva Shobo, 2013). Mae wedi cyfieithu gweithiau gan Raymond Williams, Fredric Jameson, Tony Judt, ac Edward W. Said ymhlith eraill.

This is an image of Shintaro Kono

Asako Naka

Mae Asako Nakai yn Athro ym Mhrifysgol Hitotsubashi, Tokyo. Mae ei llyfr diweddaraf (“Watashitachi” no torai [The Coming of “We” the People], Getsuyosha, 2020) yn ymwneud â hanesyddiaeth fodernaidd yn cynnwys Joseph Conrad, Virginia Woolf, a C. L. R. James. Cyfieithodd stori fer Margiad Evans “The Lost Fisherman,” a gynhwysir yn Shintaro Kono gol. The Dark World: Welsh Stories (Horinouchi Publishing, 2020).

This is an image of Asako Naka

Hiromi Ochi

Mae Hiromi Ochi yn Athro llenyddiaeth America ym Mhrifysgol Senshu. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys llenyddiaeth gwleidyddiaeth lenyddol De America a'r Rhyfel Oer. Mae ei chyhoeddiadau yn cynnwys: Modernism no Nanbuteki Shunkan: America Nanbu Shijin to Reisen (Southern Moment of Modernism: Southern Poets and the Cold War) (Kenkyusha, 2012) [yn Japaneaidd], sydd yn archwilio taflwybrau deallusol Agrariaid Deheuol a’r sefydliad astudiaethau llenyddol y De. Mae ei thraethodau yn cynnwys y rhai sydd yn canolbwyntio ar y diwylliant print yn y cyd-destunau hanesyddol penodol: “The Reception of American Literature during the Occupation,” Oxford Research Encyclopedia of Literature (2017) ; “Bunka no Senryou to Amerika Bungaku Kenkyu (Cultural Occupation and American Literary Studies) ,” The American Review 50 (2016): 21-43 [yn Japaneaidd]; “Democratic Bookshelf: American Libraries in Occupied Japan” in Pressing the Fight: Print, Propaganda, and the Cold War. Gol. Greg Barnhisel a Catherine Turner (University of Massachusetts Press, 2010) : 89-111.

This is an image of Hiromi Ochi

Takashi Onuki

Mae Takashi Onuki yn Athro Cyswllt yn yr Adran Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Tohoku, Japan. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys llenyddiaeth Brydeinig yn yr ugeinfed ganrif, Astudiaethau Diwylliannol Llenyddol, a Raymond Williams. Cyhoeddodd Towards “my socialism”: Raymond Williams and the Twentieth-Century British Culture (yn Japaneaidd, 2016), cyd-olygodd Keywords for Our Culture and Society (yn Japaneaidd, 2013) a Affections and Struggles in the Twentieth-Century British Culture (yn Japaneaidd, 2011), a chyd-gyfieithodd ysgrifau gan Raymond Williams, Fredric Jameson, ac Edward W. Said.

This is an image of Takashi Onuki