Weithdai sgiliau a hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr ymchwil

Mae'r gweithdai a'r seminarau canlynol ar gael i holl fyfyrwyr ymchwil Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau.  Maent yn atgyfnerthu'r cyrsiau hyfforddiant sgiliau canolog a gynigir gan y Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig ar y wefan hon: https://www.swansea.ac.uk/arts-and-humanities/arts-and-humanities-research/arts-and-humanities-research-centres-and-groups/cepsam/cepsam-current-student-profiles/


DIGWYDDIADAU

Hyfforddiant System Rheoli Ymchwil (RMS)

Dydd Iau 23 Ionawr 2020, 3pm – 4pm, Adeilad Haldane, Ystafell 14 (labordy cyfrifiaduron), Campws Parc Singleton

Cydlynydd: Gary Jones, Rheolwr Systemau Data Academaidd, Gwasanaethau Academaidd


Conferences: From Abstract to Paper

Dydd Iau 30 Ionawr 2020, 10am-12 ganol dydd, Ystafell y Rhodfa, Creu Taliesin, Campws Singleton

Cydlynydd:  Dr Eve Benhamou

Mae cymryd rhan mewn cynadleddau yn gam allweddol i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig: mae'n gyfle i gyflwyno eich ymchwil, profi syniadau newydd a derbyn adborth craff gan gymheiriaid yn eich maes, gan ddechrau adeiladu rhwydwaith academaidd Bydd y gweithdy hwn yn ymdrin â chamau allweddol y broses hon, o ysgrifennu crynodeb cryf i gyflwyno papur a manteisio i'r eithaf ar y digwyddiad ar y dydd.

Dylech ddod ag o leiaf un crynodeb papur a ysgrifennwyd gennych, neu un rydych yn gweithio arno (a'r alwad berthnasol am bapurau) i'w ddefnyddio fel astudiaeth achos a/neu i dderbyn adborth.


Keeping Abreast of the Field

Dydd Mercher 12 Chwefror 2020, 1pm-3pm, Ystafell 113, Adeilad James Callaghan, Campws Singleton

Cydlynydd:  Dr Adam Mosley

Mae'r adolygiad llenyddiaeth yn elfen gynnar sy’n o lawer o raddau ymchwil. Ond, hyd yn oed os ydych yn cwblhau adolygiad perffaith o'r llenyddiaeth sydd ar gael ar ddechrau'ch rhaglen, bydd ysgolheictod perthnasol yn dal i gael ei greu drwy gydol y cyfnod pan fyddwch yn gweithio ar eich traethawd ymchwil. Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno amrywiaeth o strategaethau i sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r gwaith sy'n cael ei wneud yn eich maes, o ddulliau sylfaenol o gadw trefn ar eich llyfryddiaeth i danysgrifio i hysbysiadau cyhoeddwyr a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.


Writing Your First Book Review for Publication

Dydd Mercher 19 Chwefror 2020, 4pm-5pm, Ystafell y Rhodfa, Creu Taliesin, Campws Singleton

Cydlynydd:  Yr Athro Julian Preece

Wrth i chi weithio ar eich PhD, efallai fod rhai ohonoch yn meddwl am gynlluniau cyhoeddi yn y dyfodol. Fel rheol, mae'n well canolbwyntio ar eich doethuriaeth yn gyntaf, yn hytrach na gadael i'ch sylw gael ei dynnu gan y camau nesaf, ond mae'r adolygiad llyfr yn fan cychwyn da wrth feddwl am gyhoeddi. Gallwch gyfuno adolygu llyfrau newydd yn eich maes â gweithio ar eich doethuriaeth. Mae'n cynnig llawer o fanteision eraill hefyd. Mae adolygiadau llyfr yn fyr (500-800 o eiriau fel arfer), maent yn cael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid, cewch gadw'r llyfr rydych yn ei adolygu (sy'n gallu costio hyd at £100 i'w brynu) a byddwch yn cael dealltwriaeth fanwl o lyfr am bwnc sy'n berthnasol i'ch PhD. Dylai hyn wella safon ddeallusol gyffredinol eich dadl mewn pennod neu adran allweddol. Byddwch hefyd yn gallu ychwanegu cyhoeddiad at eich CV a derbyn allbrint electronig y gallwch ei ddosbarthu ar eich rhwydweithiau ac i'ch ffrindiau a'ch cydweithwyr. Bydd y sesiwn yn rhoi rhai syniadau i chi am sut i ddechrau arni. Byddwn yn astudio detholiad o adolygiadau diweddar ac yn trafod strategaethau a thechnegau adolygu, yn ogystal â dewis cyfnodolion i'w targedu


Becoming a Professional Translator

Dydd Mercher 4 Mawrth 2020, 2pm-4.30pm, Adeilad James Callaghan, Ystafell B-04, Campws Singleton

Cydlynwyr:  Silke Luehrmann a Dr Katharina Hall


 Managing Workloads and Organising Research

Dydd Gwener 2020, 10am-11.30am, Y Stiwdio, Creu Taliesin, Campws Singleton

Cydlynydd:  Dr Dennis Schmidt

I lawer ohonom, mae straen wedi bod yn rhan anochel o PhD. Mynd i gynadleddau, cyhoeddi papurau, ymgymryd â gwaith maes - mae'r gofynion yn gallu bod yn llethol. Yn ffodus, mae llawer o ffyrdd o leihau lefelau straen. Thema'r gweithdy hwn yw ymdopi â gofynion cymhleth PhD - trefnu llwythau gwaith, amserlenni a dewisiadau, gan sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith ar yr un pryd. Byddwn yn ystyried y gwahanol bwysau mae PhD yn eu rhoi ar fyfyrwyr, a sut gellir addasu dulliau rheoli llwyth gwaith i amgylchiadau unigol.


A Layperson’s Introduction to Digital Humanities

Dydd Gwener 20 Mawrth 2020, 1pm-3pm, Ystafell 431, Adeilad Keir Hardie, Campws Singleton

Cydlynydd:  Dr Adam Mosley

Beth gall technegau'r dyniaethau digidol ei wneud? Gall gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw fod yn bwysig i ysgolheigion nad ydynt yn gweithio ym maes y dyniaethau digidol os daw'n amlwg bod ysgolheigion y dyniaethau digidol yn gallu gwneud pethau nad oes modd i dechnegau ysgolheigaidd traddodiadol eu gwneud, neu os gallant wneud rhai pethau'n well neu'n gynt. Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno rhywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yn y dyniaethau digidol, â'r nod o roi syniad o'r hyn sy'n bosib i fyfyrwyr ymchwil nad ydynt yn meddwl amdanynt eu hunain fel ysgolheigion y dyniaethau digidol. Nid yw arweinydd y gweithdy'n arbenigwr yn y dyniaethau digidol.


Hyfforddiant yn y System Rheoli Ymchwil (RMS)

Dydd Iau 26 Mawrth 2020, 3pm – 4pm, Adeilad Haldane, Ystafell 14 (labordy cyfrifiaduron), Campws Parc Singleton

Cydlynydd: Gary Jones, Rheolwr Systemau Data Academaidd, Gwasanaethau Academaidd


Cysylltwch â Liz Whitwell i gadarnhau eich presenoldeb ym mhob gweithdy hyfforddi drwy e-bostio coahpgr@abertawe.ac.uk