Mae Prifysgol Abertawe'n darparu mynediad i gronfa o dros 20,000 o fyfyrwyr a graddedigion dawnus iawn i lenwi swyddi rhan-amser, rolau i raddedigion a lleoliadau profiad gwaith. Rydym yn cynnig cyfleoedd interniaeth tymor byr, wedi'u hariannu'n llawn a rydym am i'ch sefydliad a'n hinterniaid gael y gorau o'n cyfleoedd dysgu'n seiliedig ar waith. Bydd dilyn y camau hyn yn galluogi hyn.

Cytunwch ar Gyllid

Yn aml gallwn ddarparu cyllid gwerth hyd at £2,000 i gyflogwyr sy'n recriwtio ein myfyrwyr a'n graddedigion fel interniaid. Rydym yn gofyn eich bod yn cyflogi'r myfyriwr am o leiaf 210 awr o waith, ar sail amser llawn neu ran-amser ar gyfraddau'r Cyflog Byw Cenedlaethol. Os nad ydych eisoes wedi siarad ag aelod o'n tîm, e-bostiwch ni.

Dewch o hyd i'ch Intern

Mae ein bwrdd swyddi digidol, y Parth Cyflogaeth, yn lle gwych i roi'ch hysbyseb am interniaeth fel y gall ein myfyrwyr a'n graddedigion dawnus ei gweld. Lanlwythwch hysbyseb a dewiswch ymgeisydd gan ddefnyddio'ch prosesau recriwtio arferol yn y Parth Cyflogaeth. Os oes angen cymorth arnoch gyda'r broses recriwtio, rhowch wybod i ni.

Ewch i Apwyntiad Cyn Interniaeth Gorfodol

Bydd ein Harbenigwyr Cyflogadwyedd yn eich helpu i drefnu cyfarfod, cwblhau'r pecyn interniaeth a mynd trwy'r gwiriadau iechyd a diogelwch cyn i'ch intern ddechrau gwaith. Hefyd byddwn yn esbonio ein prosesau cyllid ar gyfer talu'ch grant cyflogwr ar y cam hwn. Mae hwn yn gyfle gwych i gael atebion i'ch holl gwestiynau a chytuno ar ganlyniadau busnes ar gyfer eich sefydliad, canlyniadau dysgu ar gyfer yr intern a dyddiad dechrau.

Bydd yr Interniaeth yn Dechrau

Ar ôl i ni gynnal yr Apwyntiad Cyn Interniaeth, gall yr intern ddechrau gweithio. Cofiwch, eich sefydliad chi sy'n cyflogi'r intern felly bydd yn gyfrifol am ei gyflog, treth, yswiriant ac ati.

Darparwch Astudiaeth Achos

Byddwn yn rhoi templed i chi a'ch intern ei gwblhau er mwyn rhoi adborth i ni ar ein rhaglen a myfyrio ynghylch canlyniadau'r interniaeth. Os hoffech gwrdd â ni i gwblhau'r ddogfen hon, rhowch wybod i ni.

Rydym yn sicr y bydd eich intern yn ased i'ch sefydliad. Gwnewch y gorau o'ch buddsoddiad yn ei ddatblygiad drwy gynnig cyfleoedd gwaith pellach iddo os oes modd.

E-bostiwch y tîm cyflogadwyedd neu ewch i'n gwefan i ddarganfod mwy neu gael gwybod am yr holl gyfleoedd rydym yn gallu eu cynnig i chi.

Rhannu'r stori