Ailgysylltu afonydd eogiaid Cymru
Mae darnio cynefinoedd sy'n cael ei achosi gan rwystrau yn y llif yn un o brif achosion colli bioamrywiaeth afonydd ac yn gyfrifol am ddirywiad eogiaid yr Iwerydd a physgod mudol eraill yng Nghymru, a mannau eraill.
Mae sefyllfa eogiaid yr Iwerydd yng Nghymru yn argyfyngus ac mae pob poblogaeth wedi cael ei datgan 'mewn perygl' neu 'mewn perygl yn ôl pob tebyg" gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae ein hasesiadau diweddar yn dangos bod hyn yn rhannol oherwydd maint uchel darnio cynefinoedd.
Mewn cydweithrediad â'n partneriaid Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Afonydd Cymru, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a Sefydliad Gwy a Brynbuga byddwn yn dileu a/neu leddfu rhwystrau segur ac yn helpu i ailgysylltu cynefinoedd afonydd darniog ledled Cymru.
Yn ogystal, byddwn yn defnyddio ein ap Barrier Tracker i ymgysylltu â chymunedau lleol ac arddangos manteision cydweithio wrth adfer afonydd ymhlith y rheoleiddiwr, y darparwr dŵr, y gwyddonwyr a'r cymunedau afonydd lleol.