Mae Carolina yn ymchwilio i sut i wella iechyd a lles ieir môr sy'n cael eu ffermio (Cyclopterus lumpus) a ddefnyddir i reoli llau môr ar ffermydd eogiaid. Nod y prosiect, a ariennir gan Ysgoloriaeth KESS ac Ocean Matters Ltd yn Sir Fôn, yw datblygu mynegai cyflwr a lles wedi'i ddilysu a allai fod o gymorth i'r diwydiant, ac sy'n canolbwyntio ar baramedrau gwahanol gan roi sylw i anffurfiadau'r disg sugno fentrol. Mae ganddi ddiddordeb hefyd yng nghyffredinolrwydd poblogaethau ieir môr gwyllt a rôl microbiom mewn iechyd/clefyd a straen.

Cysylltu â Carolina

Goruchwylwyr: Yr Athro Carlos Garcia de Leaniz a'r Athro Sonia Consuegra