Ben Overland

Zebrafish tanks

Nod arbrawf Ben yw pennu a fydd gwelliannau i ficrobiom ac imiwnedd mamau Pysgod Rhesog a achosir drwy ychwanegu olew microalgâu at y diet, yn cael eu pasio i’r epil. Bydd hefyd yn edrych ar effeithiau diheintio wyau arferol ar bresenoldeb ac amrywiaeth microbiota embryo.

Goruchwylwyr: Yr Athro Sonia Consuegra a'r Athro Carlos Garcia de Leaniz

Georgia Williams

Georgia Williams

Bu Georgia yn ymchwilio i broffil metabolion algâu coch, Porphyridium purpureum. Y nod oedd defnyddio technegau metabolimig gwahanol i ganfod y newid o ran cynhyrchu metabolion dan amodau straen UVA/UVB; a nodi cynhyrchion defnyddiol posib y gellir eu defnyddio mewn biodechnoleg ddiwydiannol.

Goruchwylwyr: Dr Carole LlewellynDr Claudio Fuentes Grunewald a Dr Alla Silkina

Megan Jones

Megan

Mae prosiect amlweddog Megan yn edrych ar effeithiau trawsgenedlaethol, morffolegol ac ymddygiadol ychwanegu mymryn o ficroalgâu at fwyd arferol pysgod rhesog, yn ogystal ag ymchwilio i effeithiau cynyddu faint o weithgarwch corfforol mae’r pysgodyn yn ei wneud.

Goruchwylwyr: Yr Athro Carlos Garcia de Leaniz a’r Athro Sonia Consuegra

Hannah Cole

Hannah Cole

Bu Hannah yn ymchwilio i wella technegau bridio cregyn glas perlog caeth, rhywogaeth dŵr croyw sydd mewn perygl, ar gyfer prosiect ymchwil ei MSc. Nid yw'r diet gorau ar gyfer magu cregyn gleision perlog caeth ifanc yn hysbys, felly bu Hannah yn ymchwilio i'r diet gorau i helpu'r cregyn ifanc i dyfu ac i oroesi.

Goruchwyliwr: Dr Gethin Thomas

Myo Naung

Myo Naung

Datblygodd Myo ddull sgrinio moleciwlaidd cyflym i ganfod microsboridiau mewn pysgod glanhau fel rhan o'i MRes.

Goruchwylwyr: Yr Athro Sonia Consuegra a'r Athro Carlos Garcia de Leaniz

Craig Pooley

Craig Pooley

Bu prosiect MRes Craig (a ariannwyd ar y cyd gan Brifysgol Abertawe a Marine Harvest Scotland) yn archwilio dulliau ar gyfer gwella cyfraddau goroesi epil ieir môr (Cyclopterus lumpus) o'r ŵy i’r silod mân ar ôl cael eu diddyfnu.

Goruchwylwyr: Yr Athro Carlos Garcia de Leaniz a'r Athro Sonia Consuegra