10 Si Sicr ar sut i sicrhau interniaeth wrth astudio

Tasneem ydw i ac ar hyn o bryd, dw i’n fyfyriwr BSc Cyfrifeg a Chyllid blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Abertawe.

Dw i wedi sicrhau 3 interniaeth wrth astudio fy ngradd, sydd wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau a’m gwybodaeth ymhellach. Ni fyddwn i wedi gallu gwneud hynny heb y gefnogaeth enfawr a gefais gan y tîm cyflogadwyedd, fy nhiwtor, fy nheulu a’m ffrindiau.

Yn edrych yn ôl i’m blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol, doedd dim clem gen i am gyflogadwyedd yn gyffredinol. Mae’n drueni nad oedd gen i’r holl gyngor a chanllawiau mewn un lle i’m helpu i sicrhau interniaethau. Am y rheswm hwn, dw i’n rhannu 10 si sicr gyda chi ar gyfer sicrhau interniaeth yn seiliedig ar fy mhrofiadau i fel myfyriwr.

Llun proffil o Tasneem

1. Achubwch ar gyfleoedd sy’n helpu i ddatblygu eich CV.

Bydd CV gwych sy’n dangos eich holl sgiliau a chyflawniadau, gan sicrhau y byddwch yn disgleirio yn y dorf. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid i chi chwilio am gyfleoedd yn rhagweithiol i ddatblygu eich sgiliau ymhellach. Yn y Brifysgol, mae llawer o ffyrdd o gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol. Gallwch:

  • Ymuno â chymdeithasau a bod yn aelod pwyllgor ar y Gymdeithas - Mae bod ar bwyllgor Cymdeithas yn dangos i gyflogwyr y gallwch weithio gydag eraill a chymryd cyfrifoldeb. Ymunais i â Chymdeithas Menywod mewn Busnes Abertawe, a’r Gymdeithas Buddsoddi a Chyllid yn Ffair y Glas. Hefyd, gallwch gofrestru i ymuno â chymdeithasau yn Uned y Myfyrwyr ar y campws, neu ar-lein ar wefan y gymdeithas.

  • Byddwch yn Llysgennad Myfyrwyr - Dw i’n frwdfrydig am hyrwyddo Prifysgol Abertawe i ddarpar fyfyrwyr posib drwy fy rôl fel Llysgennad Myfyrwyr Uwch. Mae hyn yn cynnwys cynrychioli’r Brifysgol mewn digwyddiadau, rhoi teithiau tywys o’r campws, siarad â darpar fyfyrwyr am y Brifysgol, astudiaethau a mwy. Cyn y rôl hon, ni fyddwn i’n gallu mynd at bobl ddieithr a chael sgwrs â nhw, ond bellach dw i’n mwynhau gwneud hynny. Mae wedi datblygu fy sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol ac arwain yn fawr. 

  • Bod yn gynrychiolydd myfyrwyr – fel cynrychiolwr myfyrwyr, byddwch yn lleisio adborth gan fyfyrwyr ar eich cwrs i staff a darlithwyr yn yr adran rydych chi’n astudio ynddi. Am ragor o fanylion, darllenwch y canllaw gwybodaeth i gynrychiolwyr myfyrwyr.

  • Gofynnwch am gyfleoedd gwirfoddol – Mae Discovery yn elusen a arweinir gan fyfyrwyr yn Abertawe. Gallwch fod yn wirfoddolwr a chael rhagor o wybodaeth ar eu gwefan. Weithiau, caiff cyfleoedd i wirfoddoli eu e-bostio i fyfyrwyr. Gallwch ofyn i’r tîm cyflogadwyedd am gyfleoedd lleol i wirfoddoli hefyd.

  • Bydd dod o hyd i swydd ran-amser hefyd yn cryfhau eich sgiliau a’r posibilrwydd y byddwch yn sicrhau interniaeth.

 

2. Gadewch i bobl wybod eich bod chi’n chwilio am interniaeth.

Ni chaiff pob interniaeth ei hysbysebu ar-lein, yn enwedig BBaChau a busnesau newydd y mae angen help arnynt yn eu busnesau o bosib ond ni fyddant yn postio swydd yn ffurfiol. Rhoddais i wybod i bawb fy mod i’n chwilio am brofiad gwaith, a dyna sut cefais fy interniaeth gyntaf. Mae ffrind fy nhad yn berchennog busnes, a chefais gyfle drwyddo ef i wneud interniaeth wirfoddol Cyfrifeg a Chyllid a oedd yn bythefnos o hyd. Datblygais sgiliau ariannol a gweinyddol a sut i ddefnyddio QuickBooks (meddalwedd) a sut i addasu i amgylchedd swyddfa.

3. Gofynnwch am apwyntiad gyda’r tîm Cyflogadwyedd.

Mae timoedd cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe yn gyfeillgar ac yn gymwynasgar iawn. Yn dilyn pob apwyntiad, roeddwn i’n teimlo’n fwy hyderus ac wedi paratoi’n well ar gyfer y cam nesaf yn y broses cyflwyno cais. Cefais gefnogaeth ganddynt wrth chwilio am brofiad gwaith drwy gael cyngor a’r syniad o weithio dramor. Roedd fy ail interniaeth am fis yn The Arabian Gulf Oil Company yn Libia. Datblygais i ddealltwriaeth fanwl o gyllideb a rheoli costau cynhyrchu olew a gweithgareddau fforio. Cefais hefyd y cyfle i ddefnyddio fy Arabeg yn y gweithle. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi profiad gwaith dramor gan ei fod yn arddangos eich gallu i weithio mewn amgylcheddau gwahanol, a’ch gallu i gyfathrebu mewn ieithoedd eraill.

4. Arhoswch yn drefnus i gadw amser ar gyfer cyflwyno ceisiadau ynghyd â’ch astudiaethau, yn unol â therfynau amser.

Fel myfyriwr, mae gennym lawer o ddyddiadau pwysig ar gyfer asesiadau a dathliadau etc. Y cyngor gorau a gefais i gan fy nhiwtor oedd creu taenlen excel neu dabl i olrhain fy ngheisiadau interniaeth a chyflwyno cais cyn y dyddiad cau. Dw i wedi rhoi enghraifft isod i chi er mwyn i chi ei chopïo. Mae’n helpu i weld delwedd o’ch ceisiadau mewn un ddogfen, a chofiwch y dyddiad ar gyfer y cam nesaf, boed yn brawf ar-lein neu gyfweliad.

Enw’r cwmni, rôl, dyddiad cau

Profion/dyddiad cau/dyddiad sefyll

Cyfweliad/canlyniad

Table Ltd, Intern Cyllid, 27/04/20

Prawf Rhifedd, 17/04/20, 10/04/20

Cyflwyniad a Chwestiynau/llwyddo

5. Mynychu digwyddiadau rhwydweithio.

Mae’r Brifysgol yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio/cyflogadwyedd i fyfyrwyr er mwyn iddynt gwrdd â chyflogwyr. Cefais i'r cyfle i ofyn cwestiynau penodol i gyflogwyr a oedd o ddiddordeb i mi. Gwnaeth hyn wella fy nealltwriaeth o'r cwmni, y rôl roeddwn i am gyflwyno cais amdani, a chael canllawiau gwerthfawr iawn am y broses cyflwyno cais gan fyfyrwyr a gafodd eu cyflogi ar flwyddyn lleoliad gwaith.

6. Cofiwch deilwra’ch llythyr eglurhaol yn benodol i’r disgrifiad swydd.

Os yw'r interniaeth yn gofyn am lythyr eglurhaol, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi darllen y fanyleb swydd er mwyn paru eich sgiliau â’r swydd.

7. Prawfddarllenwch eich CV a’ch llythyr eglurhaol.

Rhowch sylw i fanylion yn eich CV a’ch llythyr eglurhaol. Dw i’n defnyddio Grammarly i sicrhau bod y sillafu, yr atalnodi a’r gramadeg yn gywir. 

8. Anfonwch eich CV i fusnesau a chreu eich cyfleoedd eich hun.

Cefais fy nhrydedd interniaeth drwy e-bostio fy CV i gwmnïoedd lleol. Yn aml iawn, ni chefais ateb, ond yna cefais gynnig interniaeth 3 mis o hyd yn yr Uned Cyllid a Marchnata yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae wedi bod o fudd i mi wrth ddatblygu fy sgiliau Microsoft Excel er mwyn creu mwy o ragolygon ariannol, creu cynnwys i wefannau a llawer mwy.

9. Ymarfer sy’n perffeithio.

Roeddwn i’n hynod nerfus cyn fy nghyfweliad cyntaf. Cefais gefnogaeth gan y tîm cyflogadwyedd wrth ymchwilio i’r cwmni a pharatoi atebion i gwestiynau cyfweliad nodweddiadol. Helpodd hynny i mi dyfu o ran hyder drwy wrando ar y cyflwyniad roeddwn i wedi’i baratoi fel rhan o’r cyfweliad swydd. Derbyniais i adborth er mwyn gwella, a chyflwynais i’n dda. Gofynnais i ffrindiau a theulu gynnal ffug gyfweliadau hefyd er mwyn ymarfer.

10. Gofyn am adborth.

Dw i ddim wedi llwyddo ym mhob un o’m cyfweliadau ond mae hynny’n normal. Dw i’n gofyn am adborth yn dilyn cyfweliad, gan ei bod hi’n fuddiol cael deall sut i wella fy nhechneg ar gyfer y dyfodol. Os cewch chi eich gwrthod am swydd, mae’n golygu nad y rôl â’r cwmni hynny oedd orau i chi. Mae rhywbeth gwell yn aros amdanoch!