Tak Yin Crystal Au

Tak Yin Crystal Au

Gwlad:
Hong Kong
Cwrs:
BSc Rheoli Busnes

Pam dewisais di astudio dy gwrs? Roedd y cwrs mor amrywiol ond hefyd rhoddodd gyfle i mi astudio modiwlau megis Cyllid ac rwy'n rhagori yn y pwnc hwnnw. Ar ôl graddio, gobeithiaf weithio ym maes buddsoddi mewn ffasiwn.

Sut mae dy brofiad fel myfyriwr rhyngwladol hyd yma? Roeddwn i'n poeni y byddai'n anodd i mi wneud ffrindiau ond roeddwn i'n anghywir. Mae pawb mor gyfeillgar ac rwyf wedi gwneud cynifer o ffrindiau o bob cwr o'r byd. Mae cynifer o gymdeithasau i ymuno â nhw hefyd sy'n ffordd wych o wneud ffrindiau.

Sut oedd y broses cyflwyno cais ar gyfer myfyriwr rhyngwladol? Gweithiais ochr yn ochr ag asiantau i ennill fy lle yn y Brifysgol ond roedd y broses yn hwylus iawn.

Wyt ti wedi ymuno â chymdeithasau? Rwyf wedi ymuno â'r Gymdeithas Fuddsoddi, Cymdeithas Hong Kong a'r Gymdeithas Piano (rwy'n canu'r piano). Byddwn yn argymell i fyfyrwyr rhyngwladol fod ymuno â chymdeithas yn bwysig yn hytrach nag aros yn eich ystafell. Byddwch chi'n synnu pa mor gyflym byddwch chi'n gwneud ffrindiau newydd!

Sut mae dy lety? Yn fy mlwyddyn gyntaf roeddwn i'n aros ar Gampws y Bae. Roedd y llety yn fodern iawn ac mor agos at yr Ysgol Reolaeth lle’r oeddwn i’n mynychu darlithoedd. Rwyf bellach yn byw gyda ffrindiau yng nghanol Abertawe felly rwy'n mwynhau'r gorau o ddau fyd.

Pa agweddau o Abertawe rwyt ti'n dwlu arnynt fwyaf? Mae'n fach ac mae teithio rhwng y dref a'r campws mor hawdd. Mae'n gymysgedd gwych o fyw yn y ddinas a byw yng nghefn gwlad ac rwy'n dwlu ar fod mor agos at y môr.

Ers dechrau yn y Brifysgol, beth yw dy hoff bethau am y Brifysgol? Mae’r ochr weinyddol fel myfyriwr yn hawdd iawn ac mae'r Brifysgol yn wych o ran rhoi cymorth i chi os hoffech chi newid eich modiwlau. Mae'r darlithwyr yn gyfeillgar ac yn gymwynasgar sy'n wych ar gyfer myfyriwr tramor.