Saloni Milind Wagle

Saloni Milind Wagle

Gwlad:
Cwrs:
MA Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?
- Y bobl - roeddwn i wedi clywed hyd yn oed cyn dod yma bod pawb yn hynod gyfeillgar, a nawr mae'n anhygoel bod yn rhan o gymuned mor gynnes!
- Y parciau - Rydw i wrth fy modd yn cerdded i'r campws drwy barciau Brynmill a Singleton, mae mor ymlaciol!
- Y drafnidiaeth leol - mae'n hawdd iawn ac yn gyfleus i fynd i unrhyw le yn y ddinas!

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Roeddwn i wedi clywed gan lawer o bobl mai Abertawe yw'r ddinas berffaith i fyfyrwyr yn enwedig i fyfyrwyr rhyngwladol, gan nad yw mor fawr fel ein bod yn mynd ar goll, ond hefyd, nid yw mor fach fel nad oes dim i'w wneud. Mae pobl yn gymwynasgar, mae pawb yn gynnes ac yn hawdd siarad â nhw. Hefyd, roedd gan y brifysgol yr union gwrs roeddwn i'n chwilio amdano gyda'r cydbwysedd perffaith o ymarfer a damcaniaeth. Darllenais ar-lein fod y gwasanaethau myfyrwyr o'r radd flaenaf.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Ei fod yn gydbwysedd perffaith o ymarfer a damcaniaeth. Os yw un aseiniad yn ddamcaniaethol, mae'r un nesaf yn gwbl ymarferol. Hefyd, mae cyfleusterau anhygoel fel ystafell creadigrwydd y cyfryngau a'r holl offer camera. Mae ein carfan yn amrywiol gyda phobl o bob cwr o'r byd, felly mae hynny'n gwneud y cwrs hyd yn oed yn fwy diddorol.

Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?
Heb gwblhau'r cwrs eto, ond naill ai'n mynd i ymuno ag asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus neu'n mynd i gynhyrchu dogfennau/ffilmiau.

A fyddech yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Byddwn, yn bendant! Rwyf wrth fy modd â'r ffordd y mae'r brifysgol yn gofalu am ei myfyrwyr. Beth bynnag fo'r math o broblem sydd gennym ni, mae rhywun i siarad ag ef bob amser. Rydw i’n dwlu ar y ffordd y mae'r adrannau a'r rhaglenni CYSYLLTU yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau hwyliog fel lasertag a gwau a golff. Hefyd, mae'r gwasanaethau llyfrgell yn hollol wych ac mae'r staff addysgu yn fendigedig.

Ydych chi wedi cael swydd ran-amser yn ystod eich gradd?
Ydw, rydw i'n gwneud interniaeth ran-amser ar hyn o bryd. Oherwydd i mi ei chael drwy'r brifysgol, mae'r cyflogwr yn hyblyg o ran yr oriau gwaith ac yn addasu o ran fy ymrwymiadau eraill. Mae wedi bod yn fis a hyd yn hyn, mae'n mynd yn eithaf da. Mae angen i mi gynllunio fy ngwaith ymlaen llaw a gwneud yn siŵr fy mod i'n dechrau ar fy aseiniadau mewn da bryd. Ond nid yw mor anodd ag yr oeddwn i'n meddwl y byddai. Yn wir, mae'n rhoi seibiant braf i mi o'm hastudiaethau ac mae hefyd yn gyfle dysgu da hefyd.