Kate Miller

Kate Miller

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BSc Seicoleg

Roeddwn i wrth fy modd yn ninas Austin. 

Roedd cymaint i'w wneud ac roedd ymdeimlad hapus gwych o "Gadw Austin yn Rhyfeddol'. Roeddwn i'n dwlu ar natur unigryw Austin, a'r cymysgedd o ardaloedd dinesig a rhai gwyrdd a llonydd, gyda'r llyn a'r parc hardd yn gyfleus am ganol y dref.

Y peth gorau am fy mhrofiad o astudio dramor oedd y teimlad o annibyniaeth lwyr. Roedd rhywbeth brawychus am fod mewn lle newydd, filltiroedd o gynefin eich cysur, ond ar yr un pryd roedd hi mor wobrwyol pan lwyddais i.