Hiu Lam Chau

Hiu Lam Chau

Gwlad:
Hong Kong
Cwrs:
BSc Seicoleg

Rwy'n fyfyriwr ail flwyddyn yn astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe a'r peth rwy'n ei fwynhau fwyaf yw'r dewis eang o fodiwlau, o seicoleg glinigol i seicoleg datblygiadol.

Y peth cyntaf ac amlycaf rydw i'n ei garu am Abertawe yw'r ffaith ei bod wedi'i hamgylchynu gan ddŵr. Mae hyn yn golygu bod digon o draethau hardd ym mhobman. Yn bersonol dwi wrth fy modd yn cael barbeciws a chymdeithasu gyda ffrindiau ar y traeth yn ystod yr haf. Dyma'r peth mwyaf ymlaciol y gallwch chi ei wneud ar ôl diwrnod hir o astudio! 

Yr ail beth rwy'n ei hoffi am Abertawe yw'r dewis o fwytai sydd yma. Un o’r pethau anoddaf fel myfyriwr rhyngwladol yw hiraeth ond yma yn Abertawe, mae cymaint o fwydydd, o fwyd Japaneaidd i fwyd Tsieineaidd, a hyd yn oed bwyd Thai. Y bwydydd hyn yw'r bwydydd mwyaf cyffredin a fyddai gennym yn Hong Kong. Felly, bob tro dwi'n mynd i'r bwytai hyn, mae'n gwneud i mi deimlo fel gartref a byddai'r teimlad o hiraeth yn mynd yn syth bin!

Yn olaf ond nid lleiaf yw costau byw Abertawe. Yn wahanol i’r dinasoedd mawr, mae costau byw yma yn llawer is o gymharu â dinasoedd fel Llundain. Dyma hefyd un o'r rhesymau pam y dewisais astudio yn Abertawe!

Mae'n bosibl y bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr rhyngwladol yn ofni na fyddant yn gallu cyd-dynnu â'r myfyrwyr lleol oherwydd y rhwystr iaith ond mae Prifysgol Abertawe yn darparu amrywiaeth o glybiau a digwyddiadau i fyfyrwyr gymryd rhan ynddynt. Mae hyn yn ei gwneud yn llawer haws i fyfyrwyr rhyngwladol i ddarganfod eu diddordebau wrth astudio a chwrdd â phobl newydd.

Rheswm arall pam y byddwn yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill yw oherwydd bod yr athrawon a'r staff yma yn hynod gymwynasgar a chyfeillgar. Felly, pryd bynnag y byddaf yn dod ar draws unrhyw broblemau, gallaf siarad â nhw'n uniongyrchol heb unrhyw oedi!