Bydd y rhan fwyaf o'r cyrsiau yn glynu wrth yr un llinell amser bob blwyddyn academaidd. Fodd bynnag, mae gan rai cyrsiau ddyddiadau dechrau cynharach. Daliwch ati i wirio o dan y pennawd ‘Rhaglenni Dechrau’n Gynnar’. Bydd y rhain yn cael eu rhestru cyn gynted ag y bydd cynlluniau sesiynau wedi’u cadarnhau.
Os wyt ti'n un o fyfyrwyr Y Coleg, Prifysgol Abertawe, gelli di weld dy Ddyddiadau Pwysig yma.
Sylwer, gall rhaglenni ôl-raddedig amrywio yn ôl patrymau astudio unigol. Efallai y bydd gan gyrsiau dymhorau estynedig neu efallai y bydd angen i chi astudio'n barhaus ar gyfer y rhaglen gyfan neu ran o'r rhaglen.
Dylai myfyrwyr sy'n sefyll asesiadau a ohiriwyd gysylltu â'u Hwb am ragor o wybodaeth. Mae dyddiadau ac amserlenni asesiadau a ohiriwyd yn amrywio o fyfyriwr i fyfyriwr.
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i newid dyddiadau tymhorau hyd at ddechrau pob tymor.
Rhaglenni Dechrau'n Gynnar
Bydd cyrsiau â dyddiadau dechrau cynnar yn cael eu cadarnhau yn fuan. A wnei di gofio hyn wrth wneud cynlluniau.