Is-bwyllgor Moeseg a Llywodraethu Ymchwil y Brifysgol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol yn y sefydliad am uniondeb ymchwil.  Mae'r pwyllgor yn darparu cyfeiriad polisi i sicrhau bod strwythurau, grwpiau a phrosesau ar waith yn y Colegau i gynnal adolygiadau moesegol o waith ymchwil. Mae'r pwyllgor yn derbyn ac yn datrys materion uniondeb ymchwil a gyfeirir ato gan bwyllgorau Moeseg a Llywodraethu a grwpiau/cyrff cymeradwyaeth foesegol mewnol eraill.

Mae'r Pwyllgor yn adrodd i'r Pwyllgor ar gyfer Strategaeth Ymchwil ac Arloesi (CRIS) ac i Senedd y Brifysgol.

Is-bwyllgor Moeseg a Llywodraethu Ymchwil y Brifysgol

Cylch Gorchwyl

  • Sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio ag ymrwymiadau'r 'Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil';
  • Meddu ar y Fframwaith Polisi ar 'Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu' a'i roi ar waith;
  • Goruchwylio gwaith pwyllgorau'r Brifysgol sydd â chyfrifoldeb penodol am faterion moeseg a llywodraethu ymchwil, gan gynnwys Pwyllgorau Moeseg a Llywodraethu Ymchwil y Colegau, y Pwyllgor Adolygu a Chymeradwyo Noddi, y grŵp proses Lles Anifeiliaid ac Adolygu Moesegol, a grwpiau neu is-bwyllgorau goruchwylio sy'n benodol i bwnc neu faes.
  • Monitro cydymffurfiaeth â pholisïau/gweithdrefnau moeseg mewnol a rheoliadau/deddfwriaeth allanol sy'n gysylltiedig â moeseg a llywodraethu ymchwil;
  • Monitro, adolygu ac, yn ôl yr angen, ddiweddaru polisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag uniondeb ymchwil: moeseg a llywodraethu;
  • Rhoi cymorth ac arweiniad i Golegau, er mwyn sicrhau y caiff mecanweithiau a strwythurau priodol eu datblygu yn y Colegau ar gyfer rheoli moeseg a llywodraethu ymchwil;
  • Sicrhau bod moeseg a llywodraethu ymchwil yn eitem arferol ar agendâu Pwyllgorau Ymchwil y Colegau;
  • Sicrhau y caiff risgiau o ran ymchwil eu rheoli'n briodol ac y caiff risgiau eu lliniaru at ddibenion dilyniant busnes a chynllunio at argyfwng;
  • Hyrwyddo arferion gorau a hybu cysondeb o ran uniondeb ymchwil: moeseg a llywodraethu ar draws y Brifysgol drwy hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth;
  • Sicrhau y caiff gofynion noddi, archwiliadau ac arolygiadau gan gyrff allanol eu goruchwylio a bod cydymffurfiaeth â nhw (e.e. MHRA, HTA, UKRI, y Gwasanaethau Archwilio Mewnol);
  • Diweddaru a dosbarthu'r holl ddogfennaeth sy'n ymwneud ag uniondeb ymchwil yn y sefydliad gan fwriadu sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymwybodol o'r prosesau sy'n ymwneud ag uniondeb a llywodraethu ymchwil a chymeradwyaeth foesegol; a
  • Chymeradwyo ac adolygu'n achlysurol fframweithiau moeseg a llywodraethu ymchwil sy'n benodol i bynciau a luniwyd gan Bwyllgorau Moeseg a Llywodraethu Ymchwil y Coleg.

Aelodaeth

  • Deon Academaidd Uniondeb Ymchwil (Cadeirydd)
  • Cadeiryddion Pwyllgorau Moeseg a Llywodraethu Ymchwil y Colegau
  • Deon Academaidd Ymchwil Ôl-raddedig
  • Cyfarwyddwr Sefydliad Moeseg a Chyfraith Ymchwil

Swyddogion yn bresennol:

  • Cynrychiolwyr staff proffesiynol o'r Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (REIS)
  • Cynrychiolwyr staff proffesiynol o adrannau eraill (yn ôl yr angen)
  • Swyddog Llywodraethu Meinweoedd Dynol
  • Swyddog Llywodraethu Ymchwil
  • Rheolwr Uned Dreialon Abertawe
  • Rheolwr Uniondeb Ymchwil (Ysgrifennydd y Pwyllgor)

Pa mor aml i gwrdd: Unwaith y tymor, gydag opsiwn i gynnal cyfarfodydd arbennig yn ôl yr angen.

Mae cofnodion Is-bwyllgor Moeseg a Llywodraethu Ymchwil y Brifysgol ar gael ar gais. E-bostiwch researchintegrity@abertawe.ac.uk