Beth yw'ch maes ymchwil?

Mae fy ngwaith ymchwil yn cwmpasu sawl disgyblaeth, ond yn bennaf mae’n ymwneud â datblygu busnesau bach a chanolig mewn ardaloedd gwledig. Mae gennyf ddiddordeb penodol yn y diwydiant bwyd a diod, ac rwyf wedi cyhoeddi gwaith ymchwil ar ryngwladoli busnesau bwyd a diod bach a chanolig, brandio rhanbarthol sy’n ymwneud â bwyd, ac arallgyfeirio ar ffermydd. Ar hyn o bryd, rwy’n cymryd rhan mewn prosiect a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gyda chydweithwyr yn yr Ysgol Reolaeth sy’n ymchwilio i arferion gorau ym maes datblygu rhanbarthol.

Dr Robert Bowen

Sut dechreuodd eich diddordeb yn y maes hwn? 

Wrth gael fy magu yn Sir Gâr, rwyf bob amser wedi bod yn ymwybodol o’r economi wledig a’r problemau sy’n wynebu busnesau
gwledig, yn enwedig o ran amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd. Mae fy niddordeb mewn ymchwilio i dwf busnesau bwyd a diod bach
a chanolig yn deillio o’r cyfnod pan oeddwn yn byw yn Nantes yn Ffrainc, ac yn gweld cynhyrchion bwyd o Gymru’n dechrau cael eu gwerthu’n lleol. Cafodd hyn ddylanwad ar destun traethawd estynedig fy ngradd meistr, a oedd yn edrych ar ryngwladoli busnesau bwyd a diod bach a chanolig, a gwnes i ddatblygu hyn yn nes ymlaen wrth wneud gwaith ymchwil ar gyfer PhD, gan gymharu Cymru â Llydaw.

Sut daethoch i weithio yn Prifysgol Abertawe?

Ymunais â Phrifysgol Abertawe ym mis Medi 2017 ar ôl tair blynedd fel darlithydd yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle roeddwn yn gyfrifol am greu a datblygu’r rhaglen cyfrwng Cymraeg mewn Busnes. Fy mwriad wrth ddod i Abertawe oedd gweithio’n agosach gydag ymchwilwyr yn fy maes diddordeb, yn enwedig ymchwil sy’n seiliedig ar leoedd. Ers dod i Abertawe, rwyf hefyd wedi addysgu modiwlau sy’n gysylltiedig â’m gwaith ymchwil ac rwyf wedi datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil? 

Gan fod arsylwi ar sefyllfa busnesau bach gwledig yng Nghymru wedi dylanwadu ar fy ngwaith ymchwil, fy nod yw datblygu ymchwil a fydd yn cael effaith sylweddol ar yr economi wledig yn ymarferol ac o ran polisïau. Fel yn achos llawer o ymchwilwyr, rwy’n gobeithio y gallaf sicrhau newidiadau cadarnhaol i fusnesau bach a chanolig mewn ardaloedd gwledig drwy ddylanwadu ar y rhai sy’n llunio polisïau.
Hyd yn hyn, rwyf wedi bod yn ffodus i ddatblygu ymchwil ddylanwadol gan fy mod wedi cael fy ngwahodd i gyflwyno canfyddiadau ar
ryngwladoli busnesau bach a chanolig i’r Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsel, ac rwyf wedi llunio adroddiad ar y cyd ar effaith Brexit ar gefn gwlad Cymru a lansiwyd yn Nhŷ’r Arglwyddi. Yn bwysicaf oll, cefais wahoddiad i roi tystiolaeth gerbron y pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn Senedd Cymru, fel rhan o broses o ymgynghori ar y strategaeth sydd ar ddod ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru wrth iddi gael ei datblygu.

Pa gymwysiadau ymarferol y gallai'ch ymchwil eu cynnig?

Ar ben y goblygiadau i bolisïau, megis datblygu strategaethnewydd ar gyfer bwyd a diod yng Nghymru, gellir gweld
defnyddiau ymarferol fy ngwaith ymchwil wrth gynyddu ymwybyddiaeth o faterion allweddol sy’n effeithio ar fusnesau gwledig. Mae hyn yn cynnwys tynnu sylw at effaith isadeiledd band llydan gwael ar fusnesau amaethyddol gwledig yng Nghymru, yn unol â’r drafodaeth mewn erthygl ar wefan BBC News, neu waith ymchwil cydweithredol mwy diweddar gyda chydweithwyr yn Abertawe, a’n partneriaid yn Sweden a’r Unol Daleithiau, i nodi a rhannu arferion gorau ym maes datblygu rhanbarthol.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil? 

Ar hyn o bryd, rwy’n canolbwyntio ar waith ymchwil ar gyfer dau brosiect yn bennaf. Y rhain yw astudiaeth gydweithredol sy’n ystyried arferion gorau mewn dulliau datblygu rhanbarthol, ac ymchwil gychwynnol i’r ffordd y mae ardaloedd gwledig yn cael eu
cynnwys ym mholisïau dinas-ranbarthau yn y DU. Drwy’r prosiectau hyn, rwy’n bwriadu denu mwy o sylw at faterion sy’n effeithio ar
fusnesau gwledig, yn enwedig busnesau bach a chanolig, ac rwy’n un o aelodau sefydlu’r rhwydwaith Ymchwil Gwledig Cymru, sy’n cynnwys ymchwilwyr o sefydliadau amrywiol ledled y DU, gyda’r nod o hyrwyddo ymchwil i faterion gwledig yng Nghymru.

Darganfyddwch fwy am Dr Bowen