Mae Prifysgol Abertawe yn awyddus i gefnogi dawn ragorol sy'n datblygu mewn gwahanol feysydd ymchwil cyffrous, yn enwedig nawr, ers cyswllt swyddogol y DU â Rhaglen Horizon Ewrop ym mis Ionawr 2024.
Dyddiad cau Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol Marie Skłodowska-Curie Actions (MSCA) fydd 9 Medi 2026. Mae'n cynnig cymorth hirdymor a hyblyg, gan gynnwys cyflog y cymrawd a chostau ymchwil, staff a hyfforddiant, yn ogystal â'r cyfle i gael swydd academaidd barhaol ar ôl cwblhau'r gymrodoriaeth yn llwyddiannus. Oherwydd natur hynod gystadleuol y cymrodoriaethau hyn, mae'r Brifysgol yn cynnal galwad am Fynegiannau o Ddiddordeb gan ymgeiswyr mewnol ac allanol.
Y dyddiad cau ar gyfer Mynegi Diddordeb yw 30 Ebrill 2026
AM GYMDORAETH MARIE SKŁODOWSKA-CURIE ACTION
Mae Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol MSCA yn grantiau unigol 'o'r gwaelod i fyny' i ymchwilwyr i ategu symudedd, ymchwil ragorol a hyfforddiant. Mae'r cymrodoriaethau hyn yn rhoi cyfle datblygu gyrfa ardderchog i ymchwilwyr ôl-ddoethurol wella eu potensial arloesi a hwyluso gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth.
Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol - Marie Skłodowska-Curie Actions
Cymhwysedd:
Gall ymchwilwyr fod o unrhyw genedligrwydd a rhaid iddynt:
- feddu ar radd PhD ar adeg y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais.
(Bydd ymgeiswyr sydd wedi amddiffyn eu traethawd ymchwil doethurol yn llwyddiannus, ond nad ydynt wedi ennill y radd ddoethurol yn ffurfiol eto, yn cael eu hystyried yn gymwys i gyflwyno cais)
- meddu ar uchafswm o wyth mlynedd o brofiad mewn ymchwil, o ddyddiad dyfarnu eu gradd PhD, ni fydd blynyddoedd o brofiad y tu hwnt i ymchwil a seibiannau gyrfa yn cyfrif at yr uchafswm uchod, ac ni fydd blynyddoedd o brofiad ymchwil mewn trydydd gwledydd ar gyfer dinasyddion neu breswylwyr hirdymor Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd neu Wledydd Cysylltiedig Horizon Ewrop sy'n dymuno ailintegreiddio yn Ewrop yn cyfrif at yr uchafswm uchod chwaith.
- cydymffurfio â rheolau symudedd: mae'n rhaid nad ydynt wedi preswylio neu ymgymryd â'u prif weithgarwch (gwaith, astudiaethau, etc.) yng ngwlad y buddiolwr (ar gyfer Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol Ewropeaidd), neu'r sefydliad cynnal ar gyfer y cyfnod ymadawol (ar gyfer Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol Byd-eang) am fwy na 12 mis yn y 36 mis yn union cyn dyddiad cau'r alwad.
Cymrodoriaethau Ewropeaidd
- Rhaid i'r ymchwilydd symud, neu raid ei fod wedi symud, i Aelod-wladwriaeth o'r UE neu Wlad Gysylltiedig, i ymgymryd â'i brosiect ymchwil a'i hyfforddiant.
- Ni all yr ymchwilydd fod wedi byw na chynnal ei brif weithgaredd (gwaith, astudiaethau ac ati) yng ngwlad y corff sy'n recriwtio am fwy na 12 mis yn ystod y 3 blynedd yn union cyn dyddiad cau'r alwad
Cymrodoriaethau Byd-eang
- Mae ymchwilwyr o Aelod-wladwriaeth/Wlad Gysylltiedig yn ymgymryd â chyfnod o symudedd (12-24 mis) mewn trydedd wlad ac yn dychwelyd i'r Aelod-wladwriaeth/Wlad Gysylltiedig am gyfnod dychwelyd ailintegreiddio am 12 mis
- Rhaid i ymchwilwyr sy'n dymuno ailintegreiddio yn Ewrop fod yn ddinasyddion neu'n breswylwyr hirdymor Aelod-wladwriaeth neu Wlad Gysylltiedig
Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol - Marie Skłodowska-Curie Actions
PAM DEWIS PRIFYSGOL ABERTAWE?
Yn asesiad diweddaraf Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, dyfarnwyd bod 86% o ymchwil gyffredinol y Brifysgol yn ymchwil sy'n arwain y byd neu'n ardderchog yn rhyngwladol - i fyny o 80% yn yr ymarfer REF blaenorol yn 2014. Gellir dod o hyd i uchafbwyntiau ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yma.
Rydyn ni'n parhau i gael ein cydnabod am effaith ein hymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, cadarnhaol i fywydau pobl ledled y byd. Mae 86% o'n hymchwil, a ddyfarnwyd gan banel o arbenigwyr REF, yn cael effaith eithriadol a sylweddol iawn o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd, ar lefel leol, ranbarthol a byd-eang.
Ystyrir bod 91% o'n hamgylchedd ymchwil yn arwain y byd ac yn ardderchog yn rhyngwladol (sef cynnydd o 6% ers ymarfer REF 2014). Mae hyn yn atgyfnerthu bod Prifysgol Abertawe'n amgylchedd rhagorol i gynnal ymchwil fel myfyriwr neu academydd, a bod ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid a chydweithwyr ar draws y byd. Mae ein hymchwil yn cyflawni effaith economaidd a chymdeithasol sylweddol, barhaus a gwerthfawr yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel a chynhwysol sy'n gwella amrywiaeth ac yn galluogi holl gymuned y Brifysgol i gyflawni ei photensial. Adlewyrchir hyn wrth i'r Brifysgol dderbyn nifer o siarteri sy'n gysylltiedig â chydraddoldeb, gan gynnwys dyfarniad Arian Athena SWAN ar lefel y Brifysgol (rhywedd) a safle ymysg y 50 brifysgol orau ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall. Felly, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob ymgeisydd, beth bynnag ei hil, ei ryw, ei rywioldeb neu ei allu, yn cael cymorth llawn drwy gydol y broses ymgeisio.
Ym Mhrifysgol Abertawe, mae iechyd a llesiant ein cymuned yn bwysig i ni, mae Prifysgol Abertawe’n ymdrechu i ddarparu amgylchedd gweithio a dysgu lle nad oes gwahaniaethu ac sy’n galluogi staff a myfyrwyr i gyflawni eu potensial.
Rydyn ni’n croesawu ac yn dathlu’r amrywiaeth y mae ein staff a’n myfyrwyr yn ei chyflwyno i’r Brifysgol gan ein hannog ni i feddwl yn wahanol ac i weithredu’n wahanol. I gael rhagor o wybodaeth am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym Mhrifysgol Abertawe, cliciwch yma. Mae nifer o grwpiau a rhaglenni rhwydweithio wedi’u sefydlu ym Mhrifysgol Abertawe.
Sut i gyflwyno cais:
Bellach, croesewir mynegiannau o ddiddordeb gan ymgeiswyr sydd am gael eu cefnogi gan Brifysgol Abertawe. Mae hyn yn berthnasol i ymgeiswyr mewnol ac allanol.
Am arweiniad ar sut i ysgrifennu eich cais, ewch i dudalen yr alwad a fydd yn cynnwys yr arweiniad angenrheidiol pan fydd yr alwad ar agor.
Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol MSCA 2026
Sylwer, caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg os yw ymgeiswyr yn ffafrio hynny. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg (Safon 76).
Rydym yn annog cynigion mewn cydweithrediad â’n Partneriaethau Strategol. Am ragor o wybodaeth am hyn, ewch i: Cydweithrediadau byd-eang a phartneriaethau strategol - Prifysgol Abertawe
Cais
Defnyddiwch y ddolen Mynegi Diddordeb ac anfonwch eich CV at fellowships@abertawe.ac.uk, wedi'i labelu'n glir gyda 'MSCA PF 2026' a'ch enw llawn.
Bydd Prifysgol Abertawe'n dewis ymgeiswyr i gefnogi eu ceisiadau llawn ar ôl cynnal adolygiad mewnol. Bydd ymgeiswyr a ddewisir yn cael cymorth pwrpasol i baratoi eu cynnig llawn. Rhaid i ymgeiswyr gael cefnogaeth wedi'i chymeradwyo gan y Gyfadran letyol arfaethedig.
DYSGU MWY AM GYMDEITHASAU ERAILL