Mae ein prifysgol a arweinir gan ymchwil yn archwilio, yn dadansoddi ac yn datrys heriau byd-eang yn barhaus trwy ymagwedd ryngddisgyblaethol. Rydyn ni ymhlith y 30 o brifysgolion gorau yn y Deyrnas Unedig (FfRhY14) ac mae gennym ni arbenigedd mewn nifer o feysydd gan gynnwys dur, ynni cynaliadwy solar, ac iechyd.
Credwn ni all problemau sy’n effeithio ar lawer o bobl gael eu datrys gan unigolyn; dyna pam ein bod ni’n gweithio gyda mudiadau, sefydliadau addysgol, canolfannau ymchwil ac academyddion yn rhyngwladol i arloesi cynnydd ac i wneud newidiadau er mwyn gwella’r blaned a bywydau pobl. Nid yw ein gwaith yn edrych ar y byd yn ei gyfanrwydd yn unig ond fel cymunedau unigol; yn lleol yng Nghymru a thu hwnt i Gymru gan ganolbwyntio ar gymunedau difreintiedig yn India, a chymunedau digidol ar-lein; mae ein hymchwil yn gweithio gyda phobl go iawn er mwyn gwneud newidiadau go iawn.
Mae ein gweledigaeth ar gyfer ymchwil yn syml; i ddefnyddio ein gwybodaeth a’n pobl i’n helpu ni i wella ein byd, gan edrych yn ôl ar y gorffennol i ysbrydoli arloesi’r dyfodol ac i wneud newidiadau er mwyn gwella bywydau pobl yn fyd-eang