Diwrnod Gweithgareddau Technegwyr - 15 Gorffennaf 2026

Diwrnod Gweithgareddau Technegwyr - 15 Gorffennaf 2026

Annwyl bawb,

Ymunwch â ni ar gyfer Digwyddiad Ymrwymiad Technegydd blynyddol Prifysgol Abertawe: Y Diwrnod Gweithgareddau Technegydd.

Gwahoddir staff technegol o bob cwr o Brifysgol Abertawe i fynychu'r digwyddiad undydd hwn sy'n cynrychioli cyfle i adeiladu a rhwydweithio ein cymuned dechnegol ymhellach yma ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwn yn dathlu'r wobr gwasanaeth hir yn ogystal â 'Gwobr Technegydd'. 

Bydd cyfle gan westeion i gymryd rhan yn y gêm ' The Mysterious System Failures' yn y bore ac yn y prynhawn naill ai mynd am dro natur gyda Ben Sampson neu gymryd rhan mewn gweithgaredd 'Bod yn Actif' a gynhelir gan Chwaraeon Abertawe.

Cynhelir y digwyddiad ar DDydd Mercher, 15fed  Gorffennaf, 8.45 am - 4.30 pm, ar Gampws y Bae.

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim i fynychu, ac mae croeso mawr i bob technegydd a staff technegol cysylltiedig, er bod lleoedd yn gyfyngedig. Bydd brecwast a chinio wedi'u cynnwys.

Cofrestrwch yma os gwelwch yn dda: Technicians' Activity Day Registration – Fill in form

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at: techniciancommitment@swansea.ac.uk

Gyda'r cyfarchion cynnesaf,

 

Tîm trefnwyr digwyddiadau Ymrwymiad Technegwyr