Galwad Digwyddiad Gosod Agenda
Beth rydym yn chwilio amdano:
Mae gan gynigion ar gyfer digwyddiadau preswyl 2-3 diwrnod sy'n cynnwys cyfranogwyr gwadd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol (25-30 o fynychwyr) strategaeth glir ar gyfer cyfranogiad cynhwysol ac amrywiol. Maent hefyd yn cynnig cyfleoedd i gynyddu cyfranogiad drwy gyfryngau digidol pan fydd hynny'n briodol. Dylai eich cynnig ddangos yn glir pam mae'r pwnc yn un gwreiddiol, amserol ac arwyddocaol, yn ogystal â sut y byddwch yn creu agenda ymchwil gyd-ddisgyblaethol gymhellol i weithredu arni yn y dyfodol.
Cymhwystra:
Mae'n rhaid i'r digwyddiad gael ei gyd-arwain gan gydweithwyr o ddwy gyfadran, o leiaf.
Ni ddylai cyd-arweinydd fod wedi ennill Dyfarniad Pennu Agenda yn ystod y ddwy rownd ddiwethaf.
Mae croeso i gydweithwyr gyrfa gynnar arwain ceisiadau, ond os ydych yn ymchwilydd PhD Ôl-ddoethurol, gofynnwn ichi gynnwys aelod o staff parhaol yn eich tîm arwain.
Mae'r galwad ar agor i gydweithwyr academaidd a gwasanaethau proffesiynol.
I wneud cais:
E-bostiwch PDF dwy dudalen sy'n: rhestru'r trefnwyr (a'u cyfadrannau), y cyfranogwyr gwadd a'r gyllideb (£6.5M); ac yn ymdrin yn llawn â'r meini prawf asesu (gweler isod).
Y cyfeiriad e-bost ar gyfer cynigion yw hellomasi@swansea.ac.uk
Meini Prawf Asesu:
Natur wreiddiol, anturus ac uchelgeisiol y pwnc
Statws ymchwil ac ysgolheictod y gwahoddedigion arfaethedig
Natur gyd-ddisgyblaethol y digwyddiad
Cyd-fynd â strategaethau cyllido UKRI - sut y gallai'r digwyddiad hwn arwain at brosiect a gyllidir yn allanol?
Cyd-fynd â strategaethau ymchwil y Brifysgol a'r Cyfadrannau.
Ffurf ac allbynanu'r gweithdy - rydym yn annog gweithgareddau cyfarfod creadigol a llawn dychymyg, yn ogystal ag allbynnau clir (gan gynnwys yr Adroddiad Digwyddiad Pennu Agenda gorfodol).
Cynwysoldeb ac amrywiaeth yn y digwyddiad
Gwerth am arian
Cyd-fynd â thema
Asesu:
Bydd y cynigion yn cael eu hasesu gan o leiaf 3 adolygydd o wahanol rannau o'r Brifysgol a bydd penderfyniadau cyllido yn cael eu gwneud ar sail yr adroddiadau hyn yn bennaf, ynghyd ag unrhyw ystyriaethau strategol sy'n bwysig ym marn y panel.
Dyddiadau Pwysig:
Galwad yn agor: 18 Hydref 2023
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 8 Rhagfyr 2023
Penderfyniadau: 15 Rhagfyr 2023
Bydd y Digwyddiadau Pennu Agenda yn dechrau yn 2024 - dechrau Gorffennaf 2024 (rhaid i bob gwariant gael ei gwblhau'n derfynol erbyn dechrau Gorffennaf).
Ceisiadau Llwyddiannus:
Yn ogystal â threfnu'r digwyddiad, bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus ysgrifennu papur gwyn cryno yn disgrifio'r agenda a luniwyd; bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan SAUM.