Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://abertawe.ac.uk
Datblygwyd y wefan hon gan Brifysgol Abertawe. Rydym yn awyddus i gynifer o bobl â phosibl i allu defnyddio’r wefan, teimlo fel bod croeso ganddynt, a chael profiad gwerth chweil. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:
- Chwyddo’r sgrin hyd at 200% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin.
- Addasu bylchau testun heb effeithio ar y cynllun na’r defnyddioldeb.
- Llywio’r wefan yn defnyddio bysellfwrdd yn unig.
- Defnyddio’r cymhwysiad ‘ReciteMe’ i ddarparu amrywiaeth o offer hygyrchedd.
Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw abertawe.ac.uk?
Gwerthuswyd y wefan gan ein harbenigwr mewnol ac maent yn ardystio bod abertawe.ac.uk yn cydymffurfio’n rhannol gyda safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA.
Rydym yn ymwybodol nad yw rhai rhannau o abertawe.ac.uk mor hygyrch ag y dylent fod:
- Mae gan yr holl dudalennau rolau Llywio ar sail Tirnod dyblyg heb labelu priodol.
- Mae gan Dudalennau Cyrsiau Brif rolau a rolau Llywio ar sail Tirnod dyblyg.
- Nid yw tudalennau swyddi'n tabio yn y drefn gywir i ddefnyddwyr bysellfwrdd yn unig ac maent yn torri'r nodwedd osgoi blociau.
- Mae rhai tudalennau'n camddefnyddio penawdau neu mae penawdau ar goll arnynt.
- Mae angen mwy o waith ar rai o'r Patrymau Dylunio ARIA ar gyfer dewislen y safle a chydrannau tabiau rydym wedi'u hychwanegu, er mwyn iddynt weithredu fel y disgwylir.
- Nid yw Virtual Tours yn gweithredu'n llawn wrth lywio â’r bysellfwrdd, ac nid oes disgrifiadau Delweddau ganddo.
- Nid yw darllenwyr sgrîn yn derbyn hysbysiadau ar gyfer pob gwall neu statws, ac mae angen ffocws ar ganlyniadau chwilio ac ar rai ffurflenni.
- Nid yw rhai tudalennau'n parsio, nid oes ganddynt HTML dilys ac mae'r arwyddnodi ARIA wedi'i ychwanegu'n anghywir.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth am abertawe.ac.uk arnoch mewn fformat wahanol fel PDF hygyrch, print mawr, hawdd i’w ddarllen, recordiad sain neu braille, gallwch gysylltu â’n Canolfan Drawsgrifio:
Ebost: braille@abertawe.ac.uk
Twitter: @SUTranscription
Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe, Adeilad Amy Dillwyn, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP, Y Deyrnas Unedig.
Sut i ddod o hyd i’r ganolfan drawsgrifio: SUTC-Accessible-Guide
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 7 diwrnod.
Adrodd ar broblemau hygyrchedd abertawe.ac.uk
Rydym o hyd yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn meddwl nad ydym yn cyflawni gofynion hygyrchedd:
Ebost: web-accessibility@swansea.ac.uk
Ffoniwch: +44 (0)1792 295500
Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn gorfforol
Nod y Brifysgol yw darparu gwasanaethau gwybodaeth ac arweiniad proffesiynol i fyfyrwyr anabl, myfyrwyr gydag anghenion penodol a / neu gyflyrau meddygol. Gallwn ddarparu cymorth os hoffech ymweld â ni neu ffonio ni.
Cysylltwch â’r Gwasanaeth anabledd:
Ffôn: +44 (0)1792 606617
Ebost: disability@abertawe.ac.uk
Gwybodaeth dechnegol ynglŷn â hygyrchedd y wefan
Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i sicrhau hygyrchedd y gwefannau, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae abertawe.ac.uk yn cydymffurfio’n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA/A, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i gynnal hygyrchedd lefel AA. Mae’r wybodaeth ganlynol yn egluro unrhyw rannau o’r wefan nad ydynt yn cydymffurfio hyd y gwyddom, a beth rydym yn ei wneud i ddatrys hyn.
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y resymau canlynol.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.4.1. Synhwyraidd
Mae rhai dolenni'n defnyddio lliw yn unig er mwyn cyfleu ystyr
Ar dudalennau â ffurflenni hŷn (ffurflen prosbectws) neu gynnwys unigryw (diwrnodau agored rhithwir), ychwanegwyd dolenni heb danlinellu testun, a dim ond wrth ei lliw y gellir ei nodi fel dolen.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.4.3 Lleiafswm Cyferbyniad
Ffurflenni Etifeddiaeth sydd â chyferbyniad gwael
Mae rhai ffurflenni hŷn (ffurflenni prosbectws) wedi cael eu mewnblannu ar y wefan, ac nid ydynt yn bodloni'r canllawiau cyferbyniad ar gyfer dolenni testun.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.1.1: Bysellfwrdd
Llywio Virtual Tour
Ni all defnyddwyr bysellfwrdd ddefnyddio golwg map yn llawn oherwydd y gellir sbarduno bylchau gwybodaeth naid dim ond drwy hofran, ac ni ellir tabio at rai dewislenni.
Bar y ddewislen, Llywio Tablist
O ganlyniad i beidio â rhoi patrymau dylunio ac arwyddnodi ar waith ar gyfer y "bar dewislen" a'r "tablist", ni chefnogir rhyngweithio â bysellfwrdd (llywio â'r saeth) yn unol â manyleb WS3 ar nodweddion megis Mega-Ddewislen, tabiau A-Z y cyrsiau a thabiau Nodweddion Allweddol y cyrsiau.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.1 Nodweddion Osgoi Blociau
Mae’r nodweddion osgoi blociau wedi torri ar dudalennau swyddi
Arddulliau Osgoi blociau wedi torri ar dudalen y Diwrnod Agored Rhithwir
Mae'r nodwedd osgoi blociau yn gweithredu ond nid oes ganddo destun cyfarwyddo pan fyddwch yn tabio ato.
Dim arddulliau osgoi blociau ar wefan Virtual Tours
Nid oes nodwedd osgoi blociau ar y wefan Virtual Tours.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.2 Teitl Tudalen
Nid yw teitlau tudalennau Virtual Tours yn unigryw
Teitl pob tudalen yw Virtual Tours, pa gampws neu adeilad bynnag rydych yn ei weld ar y pryd.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.3 Trefn y Ffocws
Mae trefn y ffocws wedi torri ar Virtual Tours
Oherwydd nad yw rhai elfennau ar gael drwy lywio â'r bysellfwrdd, mae trefn y ffocws yn anghywir ar y wefan Virtual Tours.
Gellir sbarduno deialog moddol dim ond drwy hofran â’r llygoden a ’mouseout’ ar Virtual Tours
Nid yw'r ffenestri naid moddol bach yn caniatáu i chi gael gwared arnynt yn benodol, ac maent yn gofyn i chi hofran yn barhaus er mwyn gweld gwybodaeth.
Nid yw Ffocws A-Z cyrsiau wedi symud i gynnwys
Wrth ddewis tab sydd â chynnwys cudd, nid yw ffocws y bysellfwrdd yn symud i gynnwys tab. Rhaid i ddefnyddwyr dabio drwy eitemau eraill er mwyn cyrraedd y cynnwys maent wedi ei ddewis.
Nid yw Ffocws Tudalen y Cwrs yn cadw ystyr
Llif defnyddwyr gweledol tudalennau'r cyrsiau fyddai Nodweddion Allweddol, Trosolwg o'r Cwrs ac Ehangwyr Gwybodaeth am y Cwrs, gyda chynnwys eilaidd ar gael. Nid yw llif defnyddwyr wedi'i dabio yr un peth; maent yn gorfod mynd drwy'r holl gynnwys eilaidd cyn cyrraedd Ehangwyr Gwybodaeth.
Mae Trefn Ffocws Tudalennau'r Swyddi Gwag Presennol a Manylion am Swyddi yn anghywir
Nid yw trefn y ffocws yn cadw ystyr ar y dudalen hon, gan eich bod yn mynd heibio sgipio at yr hafan a'r dolenni o ganlyniad i ddefnyddio Tab index=-1, ac mae "Teitl y Swydd" neu "Nôl i'r Hafan" yn cael ffocws ar ôl bar y cyfeiriad. Mae hyn yn arwain at brofiad gwael i ddefnyddwyr ar gyfer defnyddwyr sy'n defnyddio'r bysellfwrdd yn unig neu ddarllenwyr sgrîn.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.4. Diben Dolen (mewn cyd-destun)
Nid yw'r dolenni ar gyfer y Map Pa mor bell yw Abertawe ar gael i ddarllenwyr sgrîn
Nid yw mewnblaniad trydydd parti sy'n dangos mapiau i gefnogi teithio i Abertawe yn nodi diben dolen amlwg neu unrhyw destun oni bai am "Clickable". Profwyd hyn gan ddefnyddio proses wedi'i hawtomeiddio ac fe'i dilyswyd â darllenydd sgrîn.
Nid yw Dolenni i Virtual Tours ar gael i ddarllenwyr sgrîn
Nid yw gwefan a ddatblygwyd gan drydydd parti sy'n cynnal teithiau rhithwir o gwmpas y campws i fyfyrwyr yn datgan diben dolen amlwg neu unrhyw destun arall oni bai am "Void". Profwyd hyn gan ddefnyddio proses wedi'i hawtomeiddio ac fe'i dilyswyd â darllenydd sgrîn.
Mae canlyniad chwilio yn rhifo dolenni tudalennau
Gwnaeth y canlyniadau chwilio dudalennu canlyniadau chwilio. Mae dolenni'r tudalennau (1,2,3,4,5) wedi'u disgrifio fel rhifau'n unig, ac nid oes pennawd er mwyn rhoi cyd-destun. Felly, nid yw'r dolenni hyn wedi'u disgrifio gan destun dolen yn unig.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.6 Penawdau a Labeli
Camddefnyddio Penawdau
Mae penawdau rhai tudalennau wedi cael eu defnyddio ar gyfer darnau mawr o destun a chyflwyno gweledol, nid ar gyfer strwythur. Mewn rhai achosion, mae H2 wedi'i orddefnyddio, ac mae hyn yn effeithio ar dudalennau, gan dorri hierarchaeth a strwythur y dudalen.
Penawdau ar Goll ar gyfer Disgrifiadau Swyddi
Mae tag H3 (swyddi gwag presennol) ac H2 (disgrifiad swydd) ar goll ar dudalennau swyddi.
Lefel Pennawd
Mae fideos wedi'u mewnblannu gan Vimeo yn gosod tag H1 ar dudalen sydd eisoes yn cynnwys tag H1, ac yn torri strwythur y dudalen.
Ar nifer cyfyngedig o dudalennau, mae penawdau ar goll (e.e., H1, H2, H5) megis tudalennau'r ffurflen prosbectws, y diwrnod agored rhithwir a Chwilio.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.7 Ffocws Gweledol
Mae gan Virtual Tours Gylchau Ffocws anghyson
Dim ond rhan o'r wefan sy'n dangos ffocws gweladwy, ond nid yw rheolaethau pwysig megis y cwymplenni'n gwneud hynny.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 3.3.1 Nodi Gwallau
Nid yw Ffurflenni Etifeddiaeth yn rhoi negeseuon gwall manwl
Mae'r ffurflen cais am brosbectws yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr am destunau sydd ar goll yn unig, nid am unrhyw feysydd gofynnol eraill sydd ar goll.
Nid yw Ffurflenni Digidol Dot yn rhoi negeseuon gwall manwl
Mae'r ffurflen cais am brosbectws yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr am destunau sydd ar goll yn unig, nid am unrhyw feysydd gofynnol eraill sydd ar goll.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 4.1.1 Parsio
Mae Google Tag Manager (GTM) a chynnwys trydydd parti yn creu problemau wrth ddilysu
Oherwydd bod y wefan yn fawr a chanddi system rheoli cynnwys sydd â mewnblaniadau trydydd parti, nid yw rhai codau HTML yn dilysu'n gywir.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth
Nid oes gan reolaethau chwilio destun neu labeli amlwg
Nid oes gan yr elfennau cyflwyno a chlirio labeli aria ar dudalen y canlyniadau chwilio.
Custom Widget
Mae rolau megis Bar y Ddewislen (Mega Ddewislen) a'r Tablist (Adnoddau Allweddol ac A-Z o'r Cyrsiau) wedi cael eu hychwanegu at gydrannau'r wefan ond nid ydynt wedi cael eu gweithredu'n gywir yn unol â'r manylebau.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 4.1.3 Negeseuon Statws
Mae angen ffocws ar neges statws y Swyddi Gwag Presennol
Wrth wneud chwiliad wedi'i hidlo am swyddi gwag, nid yw'r statws mewn hysbysiad rôl aria. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid ffocysu'r statws er mwyn ei gyhoeddi.
Canlyniadau chwilio a Chyhoeddiadau hidlo
Ni chyhoeddir canlyniadau chwiliad pan fyddant ar gael. Mae'n rhaid i ddefnyddiwr symud a ffocysu drwy'r dudalen. Mae hyn hefyd yn berthnasol pan gaiff paramedrau hidlo eu hychwanegu a'u dileu; nid oes cyhoeddiadau. Mae'n rhaid i'r holl gynnwys dderbyn ffocws er mwyn ei glywed.
Nid yw Ffurflenni Etifeddiaeth a Ffurflenni Digidol Dot yn rhoi negeseuon gwall digidol
Nid yw'r ffurflen cais am brosbectws a’r ffurflen Cadw mewn Cysylltiad yn rhoi negeseuon gwall manwl os cânt eu cyflwyno'n anghywir. Cyhoeddir neges gwall ond mae'n amwys, nid yw'n cefnogi defnyddwyr heb olwg drwy eu symud i'r gwall, ac mae'n gymorth gweledol i wall yn bennaf.
Sut y byddwn yn mynd i'r afael â diffyg cydymffurfio
Ymdrinnir â’r methiannau maen prawf uchod drwy’r canlynol:
- Proses o godi ymwybyddiaeth hygyrchedd gyda Golygyddion Cynnwys.
- Neilltuo amser dynodedig i Dîm Datblygu'r We fynd i'r afael â'r materion hyn.
- Ymchwilio i ffyrdd o awtomeiddio profi hygyrchedd o fewn ein proses datblygu.
Baich Anghymesur
Gwnaed asesiad gan ystyried maint ac adnoddau sydd ar gael i'r sefydliad, nodir unrhyw gynnwys y bernir ei fod yn faich anghymesur yn yr adran hon.
Llywio a chael mynediad at wybodaeth
Dim problemau neu ddim yn berthnasol.
Offer a thrafodion rhyngweithiol
Dim problemau neu ddim yn berthnasol.
Offer rhyngweithiol
Dim problemau neu ddim yn berthnasol.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Gwnaed asesiad gan ystyried maint ac adnoddau sydd ar gael i'r sefydliad, nodir unrhyw gynnwys a fernir y tu allan i gwmpas y rheoliadau yn yr adran hon.
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Mae detholiad sampl o ddogfennau PDF wedi cael profion hygyrchedd ac adroddwyd am rai mân wallau. Byddwn yn gweithio gyda golygyddion cynnwys i sicrhau bod ganddynt yr hyfforddiant a'r adnoddau i fynd i'r afael ag unrhyw wallau a ganfuwyd.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Beth sy’n cael ei wneud i wella hygyrchedd
Mae ein Cynllun Gweithredu Hygyrchedd yn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd abertawe.ac.uk.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 16/09/2020 Fe'i diweddarwyd ddiwethaf ar 16/09/2020.
Profwyd y wefan abertawe.ac.uk ddiwethaf ar 15/09/2020. Cynhaliwyd y prawf gan ein arbenigwr ar ddefnyddio a hygyrchedd mewnol.
Defnyddiwyd proses a dull cyson o benderfynu ar sampl o dudalennau i'w profi. Mae hwn ar gael yn: Sut y profwyd y wefan
Mae'r adroddiad hygyrchedd llawn ar gael ar gais.